The Young Commissioners are a group of young people, from across Cardiff, who have volunteered their time. The group have received training through the Active Involvement Team (AIT) and have already worked on a number of commissioning tenders.
The Young Commissioners and colleagues in Children Services and the Commissioning & Procurement team, were shortlisted this year for a Government Opportunities (GO) Procurement Innovation of the Year Award, the ‘Taking the procurement function forward’.
The commissioning tender for which they were nominated was ‘Families First’, which is a Welsh Government funded programme designed to promote effective multi-agency support for children, young people and families.
Cardiff Council secured Families First Services for Cardiff via this process and the Young Commissioners were directly involved in evaluations of the tender submissions, presentations and clarification question and answer sessions, where they posed their own questions.
All nominated entries were reviewed by a panel of judges made up of experts in UK procurement including;
Umar Hussain MBE, Chief Financial Officer, South Wales Police,
Sue Moffatt, Commercial Director, National Procurement Service, Welsh Government
Mark Roscow MBE, Director of Procurement Services, NHS Wales Shared Services Partnership.
To be shortlisted within this category is a huge success and we would like to congratulate the final winners of the award; The NHS Wales Informatics Service.
COMISIYNWYR IFANC YN CYRRAEDD ROWND DERFYNOL GWOBR ARLOESEDD CAFFAEL CYMRU 2018
Mae’r Comisiynwyr Ifanc yn griw o bobl ifanc o ardaloedd ledled Caerdydd sydd wedi gwirfoddoli eu hamser. Mae’r criw wedi cael hyfforddiant drwy’r Tîm Cyfraniad Actif (TCA) ac eisoes wedi gweithio ar nifer o dendrau comisiynu.
Cafodd Comisiynwyr Ifanc a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant a’r tîm Comisiynu a Chaffael eu cynnwys ar restr fer eleni yng Ngwobr Arloesedd Caffael y Flwyddyn GO, ‘Datblygu’r Swyddogaeth Caffael’.
Cawsant eu henwebu ar gyfer y tendr comisiynu ‘Teuluoedd yn Gyntaf’, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a luniwyd i hyrwyddo cymorth amlasiantaeth effeithiol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Llwyddodd Cyngor Caerdydd i sicrhau Gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf drwy’r broses hon ac roedd y Comisiynwyr Ifanc yn chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o werthuso’r cynigion tendro, cyflwyniadau a sesiynau holi ac ateb, pan fuont yn gofyn eu cwestiynau eu hunain.
Adolygwyd yr holl gynigion a enwebwyd gan banel o feirniaid yn cynnwys arbenigwyr yn y maes caffael yn y DU gan gynnwys:
Umar Hussain MBE, Prif Swyddog Cyllid, Heddlu De Cymru,
Sue Moffatt, Cyfarwyddwr Masnachol, Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru
Mark Roscow MBE, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael, Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru.
Mae bod ar y rhestr fer yn y categori hwn yn llwyddiant mawr a hoffem longyfarch enillwyr y wobr; Gwasanaeth Gwybodeg GIC Cymru.