CAMHS Repatriation

Picture2

The Child & Adolescent Mental Health Services (CAMHS) in Cardiff is currently being run by Bro Taf health authority but is being repatriated to Cardiff & Vale Health Authority by 31st March 2019.

CYC members Cara Hayes-Williams, Matt Cater and Rose Melhuish are sat on both the steering board and delivery board as the voice of young people in the planning and implementation phases.

The service will sit within the Children and Women’s Clinical Board and become fully integrated with other services for children and young people both delivered and commissioned by the University Health Board (UHB), including primary care, and those provided by social services, education and the third sector.

This will create a holistic, wrap around mental health and wellbeing service for children, young people and families which ensures the timely, joined up delivery of care and treatment. It will comply with the Mental Health Measure and ensure that the care pathway is clear and transparent and easy for young people and families to navigate.

The project will include the creation of a single point of access for all emotional and mental health services for children and young people, streamlining and improving the process for referrers.

Children, Young People and Families have been engaged throughout the project, ensuring that services are designed and planned to meet their needs.

Dychweliad CAMHS

Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Caerdydd (CAMHS) yn cael ei redeg gan awdurdod iechyd Bro Taf ond yr awenau yn cael eu trosglwyddo yn ôl i Awdurdod Iechyd Caerdydd a’r Fro erbyn 31 Mawrth 2019.

Mae Cara Hayes-Williams, Matt Cater a Rose Melhuish, aelodau CIC, yn aelodau o’r bwrdd llywio a’r bwrdd cyflawni ac yn cynrychioli llais pobl ifanc yn y camau cynllunio a gweithredu.

Bydd y gwasanaeth yn rhan o’r Bwrdd Clinigol Plant a Menywod ac yn cael ei integreiddio’n llawn gyda’r gwasanaethau eraill i blant a phobl ifanc a ddarperir ac a gomisiynir gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol (BIP), gan gynnwys gofal sylfaenol, a’r rheiny a ddarperir gan y gwasanaethau cymdeithasol, addysg a’r trydydd sector.

Bydd hyn yn creu gwasanaeth iechyd meddwl a llesiant holistig, di-dor i blant, pobl ifanc a theuluoedd a fydd yn sicrhau y caiff y gwaith o ddarparu gofal a thriniaeth ei gyflawni’n amserol ac yn gydgysylltiedig. Bydd yn cydymffurfio â’r Mesur Iechyd Meddwl ac yn sicrhau bod y llwybr gofal yn glir a thryloyw a hawdd i bobl ifanc a theuluoedd ei lywio.

Bydd y project yn cynnwys creu un pwynt mynediad ar gyfer yr holl wasanaethau iechyd emosiynol a meddyliol i blant a phobl ifanc, gan symleiddio a gwella’r broses i’r sawl sy’n cyfeirio.

Mae Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd wedi bod yn cymryd rhan drwy gydol y project, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio i ddiwallu eu hanghenion.

 

Leave a Reply