Cardiff Commitment brings the public and private sectors together to work in partnership connecting young people to the vast range of opportunities available in the world of work. Ultimately, the goal of the Cardiff Commitment is to ensure that all young people in the city eventually secure a job that enables them to reach their full potential whilst contributing to the economic growth of the city. – From Cardiff Commitment Website
Through this partnership work the latest Grand Council brought together organisations to introduce pupils to a variety of STEM subjects. During the event professionals, from various organisations, asked the pupils their thoughts on whether there should be more emphasis on these types of subjects and how they should be taught.
The organisations involved in the Grand Council were; Welsh Water, Cardiff University, Techniquest, Technocamps & Cardiff Council and they delivered the following workshops; Astrophysics, Data Analysis, Machine Learning, Nano science, Smart City, Techniquest Planetarium & VR in the Workplace.
A big thank you must go out to the KS3 Pupils from the 8 Secondary Schools who attended the day which were Cantonian, Fitzalan, Willows, Woodlands, Eastern, Mary Immaculate, Bishop of Llandaff & Corpus Christi.
What was clear from the evaluation data is that there is a strong desire among children to see more of these
types of topics in the curriculum and to see external experts helping to
deliver alongside teachers in schools.
The data is to be presented to the Cardiff Commitment SLG and to a mixed audience of business people, academics and teachers in March. This data should help shape the new curriculum and the Cardiff 2030 education strategy going forward. This is just the start of the dialogue.
Look out for further updates as this progresses and keep an eye out for details of the next Grand Council which will be held in May.
Digwyddiad STEM Addewid Caerdydd
Mae Addewid Caerdydd yn dod â sectorau cyhoeddus a phreifat ynghyd i weithio mewn partneriaeth yn cysylltu pobl ifanc â’r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith. Nod Addewid Caerdydd yn y pen draw yw sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn cael swydd yn y diwedd a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas. – O Wefan Addewid Caerdydd
Drwy weithio mewn partneriaeth, yn ystod yr Uwch-gyngor diweddaraf daeth sefydliadau ynghyd i gyflwyno amrywiaeth o bynciau STEM i ddisgyblion. Yn ystod y digwyddiad, gofynnodd gweithwyr proffesiynol o wahanol sefydliadau i’r disgyblion p’un a ddylid pwysleisio pynciau STEM ragor a sut y dylent gael eu haddysgu yn yr ysgol.
Y sefydliadau a gymerodd ran yn yr Uwch-gyngor oedd: Dŵr Cymru, Prifysgol Caerdydd, Techniquest, Technocamps a Chyngor Caerdydd. Gwnaethant gyflwyno’r gweithdai canlynol: Astroffiseg, Dadansoddi Data, Dysgu Peirianyddol, Nano wyddoniaeth, Dinasoedd Campus, Planetariwm Techniquest a Rhith-wirionedd yn y Gweithle.
Mae’n rhaid dweud diolch yn fawr i ddisgyblion CA3 o’r wyth ysgol uwchradd a ddaeth i’r digwyddiad, sef Ysgol Cantonian, Ysgol Fitzalan, Ysgol Willows, Ysgol Woodlands, Ysgol y Dwyrain, Ysgol Mair Ddihalog, Ysgol Esgob Llandaf a Corpus Christi.
Daeth yn glir o’r data asesu bod awydd cryf ymhlith y plant i weld rhagor o’r mathau hyn o bynciau yn y cwricwlwm a gweld arbenigwyr allanol yn helpu i gyflwyno hynny law yn llaw gyda’u hathrawon mewn ysgolion.
Caiff y data ei gyflwyno i SLG Addewid Caerdydd ac i gynulleidfa gymysg o bobl fusnes, academyddion ac athrawon ym mis Mawrth. Dylai’r data hwn helpu i lunio’r cwricwlwm newydd a strategaeth addysg Caerdydd 2030 wrth fynd ymlaen. Dim ond dechrau’r deialog yw hyn.
Edrychwch am ragor o ddiweddariadau wrth i hyn gael ei ddatblygu a chadwch lygad am fanylion yr Uwch-gyngor nesaf a gynhelir ym mis Mai.