Child Friendly Cardiff Updates

Rights Respecting Schools update

There are currently over 91 schools in Cardiff who have registered for the UNICEF Rights Respecting Schools programme which contributes to our goal of being a Child Friendly City.

In November, 29 schools in Cardiff attended the ‘Achieving Silver: Rights Awareness Training’.

All these schools have pledged to create safe and inspiring places to learn, where children are respected, their talents are nurtured, and they are able to thrive. The Rights Respecting Schools Award embeds these values in daily school life and gives children the best chance to lead happy, healthy lives and to be responsible, active citizens.

We have more training planned for the New Year for schools, ensuring more schools are progressing through the programme.

 

Curriculum For Life update

The Curriculum for Life (C4L) agenda is a work stream under the ‘Child Friendly City’ umbrella. C4L have produced a resource called ‘Supporting Youth Knife Crime Prevention in Cardiff’. All schools, youth groups, hubs, and prevention teams have received this resource. It is available electronically or as a printed version. Please contact childfriendlycardiff@cardiff.gov.uk to request a copy.

C4L are also producing a resource alongside Healthy Schools, called ‘A Directory to Support Healthy Relationships Education in Cardiff.’ It will be ready to send out in January.

A ‘Health and Wellbeing network’ is in the process of being set up by C4L, where we will see secondary PSE coordinators come together to share good practice, discuss any issues/trends and share resources.

rrs

Diweddariad am Ysgolion sy’n Parchu Hawliau

Ar hyn o bryd mae dros 91 ysgol yng Nghaerdydd sydd wedi cofrestru mewn Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF, sy’n cyfrannu at ein nod o ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant.

Ym mis Tachwedd, mynychodd 29 o ysgolion yng Nghaerdydd ‘Cyflawni Arian: Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Hawliau’.

Mae’r ysgolion hyn i gyd wedi addewi creu lleoedd diogel ac ysbrydoledig i ddysgu, lle caiff plant eu parchu, eu talentau eu meithrin a lle gallant ffynnu.  Mae Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau yn helpu i gynnwys y gwerthoedd hyn ym mywyd bob dydd ysgolion gan roi cyfle i blant fyw bywydau hapus, iach a bod yn ddinasyddion cyfrifol, rhagweithiol.

Mae gennym fwy o hyfforddiant wedi ei gynllunio ar gyfer y Flwyddyn Newydd i ysgolion, gan sicrhau bod rhagor o ysgolion yn mynd trwy’r rhaglen.

 

Diweddariad Cwricwlwm am Oes

Mae agenda Cwricwlwm am Oes (C4L) yn ffrwd waith o dan fantell ‘Dinas sy’n Dda i Blant’. Mae C4L wedi cynhyrchu adnodd o’r enw ‘Cefnogi Atal Troseddau Cyllell Ymysg Pobl Ifanc yng Nghaerdydd’. Mae pob ysgol, grŵp ieuenctid, hyb a thîm atal wedi derbyn yr adnodd hwn. Mae ar gael yn electronig neu fel fersiwn brint. Cysylltwch â caerdyddsynddaiblant@caerdydd.gov.uk i ofyn am gopi.

Mae C4L hefyd yn cynhyrchu adnodd ar y cyd ag ysgolion iach, o’r enw ‘Cyfeiriadur i Gefnogi Addysg ar Gydberthnasau Iach yng Nghaerdydd’. Bydd yn barod i gael ei anfon ym mis Ionawr.

Mae ‘Rhwydwaith Iechyd a Lles’ yn y broses o gael ei sefydlu gan C4L, lle byddwn yn gweld cydlynwyr ABCh uwchradd yn dod at ei gilydd i rannu arfer da, trafod unrhyw faterion/tueddiadau a rhannu adnoddau.

Leave a Reply