Capital Ambition is Cardiff Council administration’s new five-year plan for the city, outlining the council’s vision for Cardiff to become a leading city on the world stage. Each Cabinet member has outlined their key aims and ambitions for their term of office. CYC members were invited by the Leader of Cardiff Council Councillor Huw Thomas to attend the Capital Ambition Launch 2.0 at Cardiff and Vale College on the 6th of February 2020. The plan focuses on four main areas, working for Cardiff, working for Wales, working for the future and working for public services. Steffan Thomas, a member of Cardiff Youth Council, said, “It was great to be able to attend the event and hear of Cardiff Council’s plans for the future.
It was interesting and thought provoking, especially given the need to balance growth with environmental concerns that are increasingly important.” Steffan managed to ask Cllr Huw Thomas, “The plan calls for a greener capital city. How achievable is this given the current emphasis on new development and economic growth?” and in his own words; “I was particularly keen to hear the Leader’s views as to how the city can grow and develop whilst respecting environmental concerns. The Leader’s response acknowledged the importance of striking this balance and ensuring that future development is as sustainable as possible.” CYC look forward to working with Cllr Huw Thomas and Cabinet Members in realising Capital Ambition 2.0 and making Cardiff a Child Friendly City.
Uchelgais Prifddinas 2.0
Mae Uchelgais Prifddinas, cynllun pum mlynedd y weinyddiaeth ar gyfer y ddinas, yn amlinellu gweledigaeth y cyngor o weld Caerdydd yn dod yn ddinas arweiniol ar lwyfan rhyngwladol. Mae pob Aelod Cabinet wedi amlinellu ei brif nodau ac uchelgais ar gyfer ei dymor yn y swydd. Gwahoddwyd Aelodau Cyngor Ieuenctid Caerdydd gan arweinydd Cyngor Caerdydd y Cynghorydd Huw Thomas i fynychu lansiad Uchelgais Prifddinas 2.0 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar 6 Chwefror 2020. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, gweithio dros Gaerdydd, gweithio dros Gymru, gweithio i’r dyfodol a gweithio dros wasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Steffan Thomas, aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, “Roedd yn wych gallu mynychu’r digwyddiad a chlywed cynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer y dyfodol. Roedd yn ddiddorol ac yn procio’r meddwl, yn enwedig o ystyried yr angen i gydbwyso twf â phryderon amgylcheddol sy’n gynyddol bwysig.”
Llwyddodd Steffan i ofyn i’r Cyng. Huw Thomas, “Mae’r cynllun yn galw am brifddinas wyrddach. Pa mor gyraeddadwy yw hyn o ystyried y pwyslais presennol ar ddatblygiad newydd a thwf economaidd? ” ac yn ei eiriau ei hun; “Roeddwn yn arbennig o awyddus i glywed barn yr Arweinydd am sut y gall y ddinas dyfu a datblygu wrth barchu pryderon amgylcheddol. Roedd ymateb yr Arweinydd yn cydnabod pwysigrwydd taro’r cydbwysedd hwn a sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol mor gynaliadwy â phosibl. ” Mae CYC yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cyng. Huw Thomas ac aelodau’r Cabinet wrth wireddu Uchelgais Prifddinas 2.0 a gwneud Caerdydd sy’n Dda i Blant.