CYC Subgroup Updates

Welcoming Refugees

The group have been working on a number of ideas and building links with other professional and organisations over the last couple of month. A couple of the ideas that have been worked on have included holding an event in City Hall, working in partnership with ACE Communities First, bringing together various organisations and professionals that work with refugee and asylum seekers in Cardiff to an educational and promotional event. Unfortunately due to time commitments and funding this was unable to gain traction and is an idea that we will be looking at in the future. Instead to group have come up with the idea of an information leaflet that can be share digitally across the city and with organisations and professionals.

The leaflet will have two parts:

  • The first side will have a map of Cardiff and will highlight the places that young people and families can go for support, such as oasis, refugee council for wales, citizen advice, hubs etc.
  • The second will again have a map that will include fun and educational things, such as parks youth centres, ice skating etc.

We will also be working with Oasis on a new project specifically working with young people who are refugee or asylum seekers at an event, date to be confirmed. If you can think of any services that could be included within our leaflet, please feel free to get in touch with us at cardiffyouthcouncil@cardiff.gov.uk.

 

Protect the Environment

Recently, the environmental sub-group has been making lots of progress on our project. We are creating a resource for the people of Cardiff to use so they can live more sustainable, environmentally friendly lives. After visiting businesses around the city, we have started whittling down a list of places to include on our resource which we are happy are sustainable enough to promote to the eco-friendly members of Cardiff, or those who want to change their lifestyles. In our last meeting, we set out a roadmap of what we want to achieve and when, to make sure we are doing what we set out to do. We have decided to include a map on the resource showing the places that we believe to be sustainable in a productive way, so that people know where to find them.

 

Emotional Mental Health and Wellbeing

CYC identified a number of ways in which they would like to promote MindHub as part of their plan for the year by doing the following:

  • Creating two videos
    • The first – a 2 min live action film in which young people talk about some of the issues they face that cause poor MH&W and which promotes MindHub
    • The second – a 20-30sec animated film that can be used to promote MindHub on various platforms such as social media sites
  • Update the MindHub website with changes identified by users
  • Posters and banners that can be displayed in schools and other locations across the city

 

 

CYC Logo bilingual

Diweddariadau’r Is-grŵp CIC

Croesawu Ffoaduriaid

Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio ar nifer o syniadau ac yn meithrin cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill yn ystod y misoedd diwethaf. Ymhlith y syniadau a drafodwyd roedd cynnal digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, a dwyn ynghyd sefydliadau a gweithwyr proffesiynol amrywiol sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd mewn digwyddiad addysgol a hyrwyddol. Yn anffodus, oherwydd ymrwymiadau amser a chyllid, ni ddigwyddodd hyn ac mae’n syniad gennym edrych arno yn y dyfodol. Yn hytrach, mae’r grŵp wedi cyflwyno’r syniad o daflen wybodaeth y gellir ei rhannu’n ddigidol ar draws y ddinas a chyda sefydliadau a gweithwyr proffesiynol.

Bydd dwy ran i’r daflen:

  • Ar un ochr bydd map o Gaerdydd a bydd yn tynnu sylw at y lleoedd y gall pobl ifanc a theuluoedd fynd iddynt am gymorth, fel Oasis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cyngor ar Bopeth, hybiau ac ati.
  • Ar yr ochr arall bydd map yn cynnwys pethau hwyliog ac addysgol, fel parciau, canolfannau ieuenctid, sglefrio iâ ac ati.

Byddwn hefyd yn gweithio gydag Oasis ar broject newydd sy’n gweithio’n benodol gyda phobl ifanc sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches mewn digwyddiad, y dyddiad i’w gadarnhau. Os gallwch feddwl am unrhyw wasanaethau y gellid eu cynnwys yn ein taflen, mae croeso i chi gysylltu â ni yn cyngorieuenctidcaerdydd@caerdydd.gov.uk.

 

Amddiffyn yr Amgylchedd 

Yn ddiweddar, mae’r is-grŵp amgylcheddol wedi bod yn gwneud llawer o gynnydd ar ein prosiect. Rydym yn creu adnodd i bobl Caerdydd ei ddefnyddio fel y gallant fyw bywydau mwy cynaliadwy, sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.  Ar ôl ymweld â busnesau o amgylch y ddinas, rydym wedi creu rhestr fer o leoedd i’w cynnwys yn ein hadnodd yr ydym yn hapus eu bod yn ddigon cynaliadwy i’w hyrwyddo ymhlith aelodau ecogyfeillgar Caerdydd, neu’r rhai sydd am newid eu ffordd o fyw. Yn ein cyfarfod diwethaf, aethom ati i lunio cynllun o’r hyn yr ydym am ei gyflawni a phryd, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud. Rydym wedi penderfynu cynnwys map yn yr adnodd sy’n dangos y mannau rydym yn credu sy’n gynaliadwy mewn ffordd gynhyrchiol, fel bod pobl yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt. 

 

Iechyd a Lles Emosiynol a Meddyliol  

Nododd CIC nifer o ffyrdd yr hoffent hyrwyddo’r Hyb Meddwl fel rhan o’u cynllun ar gyfer y flwyddyn drwy wneud y canlynol:

    • Creu dau fideo
      • Y cyntaf – ffilm 2 funud fyw lle mae pobl ifanc yn trafod rhai o’r problemau y maent yn eu hwynebu sy’n achosi Iechyd Meddwl a Lles gwael ac sy’n hyrwyddo’r Hyb Meddwl.
      • Yr ail – ffilm animeiddiedig 20-30 eiliad y gellir ei defnyddio i hyrwyddo’r Hyb Meddwl ar wahanol blatfformau fel y cyfryngau cymdeithasol.
    • Diweddaru gwefan yr Hyb Meddwl gyda newidiadau a nodwyd gan ddefnyddwyr.
    • Posteri a baneri y gellir eu harddangos mewn ysgolion ac mewn llefydd eraill trwy’r ddinas

Leave a Reply