Lee was integral to the creation of Cardiff Youth Council (CYC) back in 2011, when a number of smaller youth groups decided that they should come together to form a stronger voice.
Lee has helped to develop many programmes of work with young people and in particular, a project called the Young Programme. This piece of work includes primarily the Young Commissioners, Young Interviewers and Young Inspectors. These programmes have led to young people being involved in the commissioning of 10s of millions of pounds worth of Families First funding, 100s of interviews including Directors in Cardiff Council level and running inspections on services for children and young people.
This is just a small amount of what Lee has helped us achieve while working with the Active Involvement Team (AIT), there is much more we would like to thank him for.
Throughout his time with AIT; Lee has been exemplary and will be greatly missed by all staff and young people and we wish him well in his new role as Senior Youth Officer in the Butetown Pavillion.
From CYC Chair Connor Clarke – “CYC wouldn’t be what it is today without Lee’s hard work, dedication and firm belief that every young person has the right to be listened to. I think I speak for everyone when I say that CYC, and all of Cardiff, is better off because of Lee’s work and we wish him all the best in the next chapter of his career”.

Diolch o gallon i Lee Richards
Roedd Lee yn rhan annatod o greu Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) yn ôl yn 2011, pan benderfynodd nifer o grwpiau ieuenctid llai y dylent ddod at ei gilydd i ffurfio llais cryfach.
Mae Lee wedi helpu i ddatblygu llawer o raglenni gwaith gyda phobl ifanc ac yn arbennig, project o’r enw y Rhaglen Ifanc.
Mae’r darn hwn o waith yn cynnwys y Comisiynwyr Ifanc, Cyfwelwyr Ifanc ac Arolygwyr Ifanc yn bennaf. Mae’r rhaglenni hyn wedi arwain at bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o gomisiynu gwerth degau o filiynau o bunnoedd o gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, cannoedd o gyfweliadau gan gynnwys Cyfarwyddwyr ar lefel Cyngor Caerdydd a chynnal arolygiadau ar wasanaethau i blant a phobl ifanc.
Dyma ran fach iawn o’r hyn y mae Lee wedi ein helpu i’w gyflawni wrth weithio gyda’r Tîm Cynnwys Actif (TCA), mae llawer mwy yr hoffem ddiolch iddo amdano.
Drwy gydol ei gyfnod gyda TCA, mae Lee wedi bod yn rhagorol a bydd yr holl staff a phobl ifanc yn eu colli’n fawr. Dymunwn yn dda iddo yn ei rôl newydd fel Uwch Swyddog Ieuenctid ym Mhafiliwn Butetown.
O Connor Clarke, Cadeirydd CIC – “Ni fyddai CIC yr hyn ydyw heddiw heb waith caled, ymroddiad a chred gadarn Lee fod gan bob person ifanc yr hawl i gael ei glywed. Rwy’n credu fy mod yn siarad ar ran pawb pan ddywedaf fod CIC, a Chaerdydd gyfan, yn well eu byd oherwydd gwaith Lee a dymunwn y gorau iddo ym mhennod nesaf ei yrfa”.