Member of CYC, the Environment Subgroup and Young Interviewer
A catastrophic crisis has infiltrated billions of lives globally. The COVID-19 pandemic has affected us in every way, from causing 725,712 deaths at the time of writing to, of course, confining us inside the walls of our own houses. 2020 was supposed to be the ‘Year of Travel’, for me and a myriad of other people. It was the year I was looking forward to, a year which will deliver both adventure and exploration in exciting ways. High school students like me would’ve confidently wrote the exams after hours of revision, attended Prom and had a blast with their friends (and maybe asked someone for a small dance that evening, who knows?). I would have travelled on a cruise to Norway for the Summer Holidays, and finally said goodbye to friends before departing our own ways, whether it’s 6th form, college, employment, or university. Just one strain of a mysterious virus and its biological ability to exponentially replicate itself over a short period of time, was sufficient to render these dreams as… well, just dreams; it seems as though they only turned into reality in an alternate universe.
However, Indian industrialist Ratan Tata once said, “ups and downs in life are very important to keep us going, because a straight line even in an ECG means we are not alive”. Of course, lockdown pushed billions of people to the absolute verge of ultimate boredom, but that doesn’t mean that I have stopped contributing to the Cardiff Youth Council we all know and love…
I am a member of Cardiff Youth Council, as well as the Environment Subgroup within it. Every member of the subgroup had to research environmentally sustainable places in Cardiff, ready for an informative resource in the form of a leaflet/pamphlet/brochure. After all the research was collated, I opted to be in charge of the design work. I designed the first draft. After several subgroup members contribute potential improvements to it, I acted upon them. Currently, this is what the resource looks like:

As you can infer from the colour scheme, I am a big fan of vibrant colours. I took inspiration from the Pop Art Movement (which incorporated bright, bold colours) which I explored in my art lessons back in Year 9. I am not a professionally qualified graphic designer, but I do know that the range of different colours also reflects diversity and liveliness, stimulating the creative side of our brains, making the resource look fun.
Secondly, I volunteered to be on two interview panels. The first was the role which Lee Richards has recently left (we are sad to see him leave), and the second was for a new post: a Mental Health Resilience Worker. I am only 16 right now, but I too might be applying for jobs one day. Interviewing candidates on a panel with other young people has allowed me to put myself into the shoes of an employer, so that I know their exact expectations. There were candidates who gave exceptional answers, and there were ones who gave not so exceptional answers. I now know what a good answer looks like, and equivalently, what a bad answer looks like too. It also allowed me to empathise with the candidates and the anxiety and nervousness they felt, which led me to think that this is common amongst interviewees. This experience has aided my verbal communication skills vastly. By developing these essential and employability skills in a real life context at such a young age, I have no doubt that the young people of our generation, with these Young Interviewers opportunities, will be the rising stars in the ever expanding world of work, both inside and outside of Wales.
On a concluding note, I would like to thank CYC and AIT for keeping me (somewhat) busy during this monotonous occasion of being stuck at home, as well as all the benefits it has radiated to other people so far, just like it will continue to do so in the foreseeable future.
Eshaan Rajesh, 16
Aelod o Is-grŵp Amgylchedd Cyngor Ieuenctid Caerdydd a Chyfwelydd Ifanc
Mae argyfwng enbyd wedi amharu ar filiynau o fywydau ledled y byd. Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnom ym mhob ffordd, o achosi 725,712 o farwolaethau hyd yn hyn i’r newid mwyaf amlwg, sef ein cyfyngu o fewn waliau ein cartrefi ein hunain. Roedd 2020 i fod yn Flwyddyn Deithio, i mi a llawer o bobl eraill. Dyma’r flwyddyn roeddwn yn edrych ymlaen ati, blwyddyn a fyddai’n cynnig antur ac archwilio mewn ffyrdd cyffrous. Byddai myfyrwyr ysgolion uwchradd fel fi wedi ysgrifennu’r arholiadau’n hyderus ar ôl oriau o adolygu, wedi mynd i’r Ddawns Fawr a chael hwyl gyda’u ffrindiau (ac efallai wedi gofyn i rywun am ddawns fach y noson honno, pwy a ŵyr?). Byddwn innau wedi teithio ar fordaith i Norwy ar gyfer Gwyliau’r Haf, ac wedi ffarwelio am y tro olaf â ffrindiau cyn gadael i fynd ein ffyrdd ein hunain, boed hynny yn y 6ed dosbarth, y coleg, byd gwaith neu’r brifysgol. Dim ond un math o feirws dirgel a’i allu biolegol i atgynhyrchu ei hun yn fwyfwy cyflym dros gyfnod byr o amser oedd yn ddigon i wneud y breuddwydion hyn yn… wel, yn freuddwydion yn unig; mae’n ymddangos mai dim ond mewn bydysawd arall y gwnaethant droi’n reality.
Fodd bynnag, dywedodd y diwydiannwr Indiaidd Ratan Tata unwaith, “Mae troeon bywyd yn bwysig iawn i’n cadw i fynd oherwydd bod llinell syth, hyd yn oed mewn ECG, yn golygu nad ydym yn fyw.” Wrth gwrs, fe wnaeth y cyfnod cloi wthio biliynau o bobl i ymyl diflastod llethol, ond nid yw hynny’n golygu fy mod wedi rhoi’r gorau i gyfrannu at Gyngor Ieuenctid Caerdydd sy’n gyfarwydd ac yn annwyl i bob un ohonom…
Rwy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, yn ogystal ag Is-grŵp yr Amgylchedd sy’n rhan ohono. Bu’n rhaid i bob aelod o’r is-grŵp ymchwilio i leoedd amgylcheddol gynaliadwy yng Nghaerdydd, yn barod am adnodd gwybodaeth ar ffurf taflen/pamffled/llyfryn. Wedi i holl ddata’r ymchwil gael ei gasglu, dewisais fod yn gyfrifol am y gwaith dylunio. Lluniais y drafft cyntaf. Ar ôl i nifer o aelodau’r is-grŵp gyfrannu gwelliannau posibl ato, fe wnes i weithredu arnynt. Ar hyn o bryd, dyma sut olwg sydd ar yr adnodd:

Fel y gallwch weld o’r cynllun lliwiau, rwy’n hoff iawn o liwiau bywiog. Cymerais ysbrydoliaeth gan y Mudiad Celf Bop (a oedd yn cynnwys lliwiau llachar, beiddgar) a archwiliais yn fy ngwersi celf ym Mlwyddyn 9. Nid wyf yn ddylunydd graffig â chymwysterau proffesiynol, ond rwy’n gwybod bod yr ystod o wahanol liwiau hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd, gan ysgogi ochr greadigol ein hymennydd, gan roi golwg difyr i’r adnodd.
Yn ail, gwirfoddolais i fod ar ddau banel cyfweld. Y cyntaf oedd y rôl y mae Lee Richards wedi’i gadael yn ddiweddar (rydym yn drist o’i weld yn gadael), a’r ail oedd ar gyfer swydd newydd: Gweithiwr Gwydnwch Iechyd Meddwl. Dim ond 16 oed ydw i ar hyn o bryd, ond efallai y byddaf innau hefyd yn gwneud cais am swyddi rhyw ddydd. Mae cyfweld ag ymgeiswyr ar banel gyda phobl ifanc eraill wedi fy ngalluogi i roi fy hun yn esgidiau cyflogwr, fel fy mod yn gwybod eu hunion ddisgwyliadau. Roedd ymgeiswyr a roddodd atebion rhagorol, ac roedd rhai nad oeddent yn rhoi atebion mor rhagorol. Rwy’n gwybod erbyn hyn beth yw ateb da, ac ar y llaw arall, beth yw ateb gwael hefyd. Roedd hefyd yn fy ngalluogi i ymuniaethu â’r ymgeiswyr a’r pryder a’r nerfusrwydd a deimlent, gan fy arwain i feddwl bod hyn yn gyffredin ymysg cyfweleion. Mae’r profiad hwn wedi cynorthwyo fy sgiliau cyfathrebu llafar yn aruthrol. Trwy ddatblygu’r sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd hyn mewn cyd-destun bywyd go iawn a minnau mor ifanc, nid oes gennyf amheuaeth na fydd pobl ifanc ein cenhedlaeth ni, gyda’r cyfleoedd hyn i Gyfwelwyr Ifanc, yn sêr cynyddol ym myd gwaith sy’n fythol ehangu, yng Nghymru a’r tu allan iddi.
I gloi, hoffwn ddiolch i Gyngor Ieuenctid Caerdydd a’r Tîm Cynnwys Actif am fy nghadw’n brysur (i raddau) yn ystod y cyfnod undonog hwn o fod yn gaeth i’r tŷ, yn ogystal â’r holl fanteision mae wedi’u rhoi i bobl eraill hyd yma, yn union fel y bydd yn parhau i’w wneud hyd y gellir rhagweld.