Mae’r Datganiad Cyffredinol o hawliau Dynol (1948) yn nodi bod gan “bawb hawl i’r holl hawliau a rhyddid a osodir ymlaen yn y Datganiad hwn, heb wahaniaethu o unrhyw fath, megis hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, … geni neu statws arall.”
Mae cyfraith ryngwladol felly’n dweud bod Cydraddoldeb Rhywedd yn hawl ddynol.
Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi sefydlu Grŵp Llywio Cydraddoldeb Rhywedd er mwyn archwilio profiadau o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’r hyn y gellir ei wneud yn y ddinas i wella hyn.
Cawsom ein cyfarfod cyntaf heddiw lle’r oedd yn wych cael pobl ifanc o’r un anian at ei gilydd yn trafod rhyw a’u profiadau.
Roedd y prif themâu a ddaeth o’n trafodaeth gychwynnol yn canolbwyntio ar misogyny, stereoteipio rhyw a phobl ifanc yn gallu archwilio eu rhyw eu hunain yn gadarnhaol ac yn ddiogel. Nodwyd bod y rhyngrwyd hefyd wedi cael effaith enfawr ar bob un o’r themâu hyn, boed hynny drwy brofiadau negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r poblogrwydd cynyddol o ddylanwadwyr misogynistaidd.
Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod nesaf ar yr 16eg o Chwefror i drafod hyn ymhellach!