The young interviewers recently worked alongside Nick Batchelar, the Director of Education for Cardiff Council, on the interview panels for Assistant Director of Education and the Program Director for School Organisation Program (SOP).
The Assistant Director of Education has overall operational responsibility for all services in the Achievement, Inclusion and Services to Schools areas. There are approximately 520 full-time equivalent staff in these areas with a budget made up from revenue, grant and traded income to the order of £16.5M. Central budgets have been much reduced in recent years, and the Assistant Director will lead continuing service improvement to ensure that the council continues to effectively deliver in its role as the Local Authority.
The Program Director for SOP will be responsible for delivering the Welsh Government’s Band B 21st Century Schools Programme. Cardiff has the largest school estate of any council in Wales and the biggest projected spend under this programme. In addition to this, the city is seeing significant new housing growth which brings with it a sizeable programme of new school building, delivered under planning consent agreements with developers. Taken together, the overall financial investment in the education estate over the next ten years will be approaching £0.5 billion.
The young interviewer teams were one of a number of interview panels that included key stake holders such as school governors, head teachers, human resources, the Director of Education, the Chief Executive Paul Orders and elected members.
Candidates were asked to present ideas as well as complete an unseen task.
The young people said “It was great to be involved in such interviews which will help to shape the education system in Cardiff”.
The two successful candidates are:
Assistant Director Education and Lifelong Learning – Mike Tate who will be taking up post from September 2019.
Programme Director School Organisation Programme – Richard Portas who will be taking up post from the beginning of June 2019.
The Young Interviewers said that thanks must go to all the candidates who took part and congratulate Mike and Richard on their appointments. Cardiff Youth Council looks forward to working with them in the future.
Cyfwelwyr Ifanc
Yn ddiweddar, gweithiodd y cyfwelwyr ifanc ochr yn ochr â Nick Batchelar, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Caerdydd, ar baneli cyfweld ar gyfer swyddi Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Chyfarwyddwr Rhaglen y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion (CTY).
Mae gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg gyfrifoldeb gweithredol cyffredinol dros bob gwasanaeth yn y meysydd Cyflawniad, Cynhwysiant a Gwasanaethau i Ysgolion. Mae oddeutu 520 o aelodau staff cyfwerth ag amser llawn yn y meysydd hyn gyda chyllideb yn deillio o refeniw, grant ac incwm masnachol gwerth oddeutu £16.5m. Mae cyllidebau canolog wedi cael eu lleihau’n helaeth yn ddiweddar, a bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn arwain ar barhau â gwelliannau gwasanaeth i sicrhau bod y Cyngor yn dal i gyflawni’n effeithiol yn ei rôl fel yr Awdurdod Lleol.
Bydd Cyfarwyddwr Rhaglen CTY yn gyfrifol am gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Llywodraeth Cymru. Caerdydd sydd â’r ystâd ysgolion fwyaf o bob cyngor yng Nghymru a’r rhagamcan gwariant mwyaf dan y rhaglen hon. Yn ogystal â hyn, mae’r ddinas yng nghanol twf tai newydd sylweddol sy’n golygu rhaglen fawr o adeiladau ysgol newydd, a gyflawnir dan gytundebau caniatâd cynllunio â datblygwyr. Gyda’i gilydd, bydd y buddsoddiad ariannol cyffredinol i’r ystâd addysg dros y ddeng mlynedd nesaf bron yn £0.5 biliwn.
Roedd y timau cyfwelwyr ifanc yn un o sawl panel cyfwelwyr a oedd yn cynnwys prif randdeiliaid megis llywodraethwyr ysgol, penaethiaid, adnoddau dynol, y Cyfarwyddwr Addysg, y Prif Weithredwr Paul Orders, ac aelodau etholedig.
Gofynnwyd i’r ymgeiswyr gyflwyno syniadau ynghyd â chwblhau tasg heb baratoi cyn y diwrnod.
Dywedodd y bobl ifanc “Roedd yn wych i fod ynghlwm wrth gyfweliadau o’r fath fydd yn helpu i lywio’r system addysg yng Nghaerdydd”.
Dyma’r ddau ymgeisydd llwyddiannus:
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg a Dysgu Gydol Oes – Mike Tate a fydd yn dechrau yn y swydd o fis Medi 2019.
Cyfarwyddwr Rhaglen Cynllun Trefniadaeth Ysgolion – Richard Portas a fydd yn dechrau yn y swydd o fis Mehefin 2019.
Dywedodd y Cyfwelwyr Ifanc fod angen diolch i’r holl ymgeiswyr a gymerodd ran a llongyfarch Mike a Richard ar eu swyddi newydd. Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.