The following article is from Gladstone Primary School
We are proud to announce that Gladstone Primary School has recently been awarded the Rights Respecting Schools Bronze Award and we would like to tell you about some of things that help us achieve this.
The children in our Rights Respecting Group introduced the whole concept of children’s rights to pupils and staff during our launch assembly which they successfully hosted and led.
We regularly meet to update our progress and to ensure we are representing views of our fellow student body they are given the option to share their views, write down their ideas and place in suggestion boxes situated around the school (Article 12 – respect the views of the child).
The boxes are emptied before each meeting and we make sure we discuss each topic raised. Representatives then go to speak to our Head teacher to discuss any issues/ ideas e.g. exchanging the foam footballs we currently use to more durable footballs which last longer (part of Article 31 -leisure, play and culture).
These ideas are discussed and implemented as far as possible.
Our recent change has been to our monthly newsletter. The children of the ‘Rights Respecting Group’ felt that they would like to reformat the structure to include all of the relevant class information which they help to produce. They feel there is a need to include a section entirely aimed at children and therefore they introduced a joke section, an ‘In the Spotlight’ staff interview section where they choose who to interview and what the questions they’d like to ask and a Rights Respecting Schools Award section where they can give any updates about progress (Article 13 – freedom of expression).
– Ms Donna Weston and the Gladstone Primary Rights Respecting Group
Diweddariad am Ysgolion sy’n Parchu Hawliau
Daw’r erthygl canlynol o Ysgol Gynradd Gladstone
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Ysgol Gynradd Gladstone yn ddiweddar wedi ennill Gwobr Efydd Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, ac hoffem ddweud wrthych am rai o’r pethau wnaeth ein helpu ni i gyflawni hyn.
Gwnaeth plant ein Grŵp Parchu Hawliau gyflwyno’r cysyniad o hawliau plant i ddisgyblion a staff yn ystod y gwasanaeth lansio, a gynhaliwyd ac a arweiniwyd yn llwyddiannus ganddynt.
Rydym yn cwrdd yn rheolaidd i asesu ein cynnydd, ac er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynrychioli barn ein myfyrwyr eraill rydym yn rhoi’r cyfle i rannu eu barn, ysgrifennu syniadau a’u rhoi mewn bocsys awgrymiadau ar draws yr ysgol (Erthygl 12 – Parchu barn y plentyn).
Caiff y bocsys eu gwacáu cyn pob cyfarfod ac rydym yn sicrhau ein bod ni’n trafod pob pwnc a godir. Yna, bydd cynrychiolwyr yn mynd i siarad â’r Pennaeth i drafod unrhyw faterion/syniadau e.e. newid y peli pêl-droed sbwng sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i beli sy’n para’n hirach (rhan o Erthygl 31 – Hamdden, chwarae, diwylliant).
Caiff y syniadau hyn eu trafod a’u gweithredu cyn belled ag sy’n bosibl.
Rydym wedi newid ein cylchlythyr misol yn ddiweddar. Roedd plant y ‘Grŵp sy’n Parchu Hawliau’ yn teimlo yr hoffent ailfformatio’r strwythur i gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am ddosbarthiadau y maen nhw’n helpu i’w chreu. Maent o’r farn bod angen cynnwys adran sydd ar gyfer plant yn gyfan gwbl, ac felly gwnaethant gynnwys adran jôcs, adran cyfweliadau staff ‘Dan y Chwyddwydr’ lle roeddent yn dewis pwy i gyfweld â nhw a’r cwestiynau yr hoffent eu gofyn, ac adran Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau lle gallent roi diweddariadau am gynnydd (Erthygl 13 – Rhyddid mynegiant).
– Ms Donna Weston a Grŵp sy’n Parchu Hawliau Ysgol Gynradd Gladstone