
Back in October 2018, the Cardiff Youth Council (CYC) executive delivered a presentation to over 200 professionals at Sophia Gardens Cricket Ground. In the room were high profile business leaders and educationalists. Some of the attendees were staff members from Welsh Water who were so impressed by CYC’s presentation that they approached them to see if they would work with them in the future.
As a result of this, Welsh Water worked closely with the executive of CYC and invited them to deliver a speech, as a part of a workshop, during their annual innovation conference held in the Royal Welsh College of Music and Drama.
Welsh Water have close links with many schools in Cardiff, especially primary schools. In their presentation, the executive spoke about how Welsh Water can better engage with the young people that they work with in these school environments by linking real world experiences in to the new curriculum developments. In terms of strengthening these relationships/creating new links with schools, the executive highlighted to Welsh Water that they can enhance and improve the impact they have on young people by encouraging them to engage and by inspiring them.
Welsh Water currently provides two kinds of education programmes, the apprenticeship programme and their graduate programme. The executive encouraged engagement with young people about these opportunities and spoke about how their programmes can unite the professional world of work and education for young people.
As a thank you for the presentation, Welsh Water provided the CYC executive with tickets to go paddle boarding – This will most likely be taking place during the summer.
Keep an eye out to see us paddle boarding!
Digwyddiad Dŵr Cymru
Ym mis Hydref 2018, rhoddodd gweithredwyr Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) gyflwyniad i dros 200 o weithwyr proffesiynol ym Maes Criced Gerddi Sophia. Roedd arweinwyr busnes proffil uchel ac arweinwyr y maes addysg yn yr ystafell. Roedd rhai o’r bobl yno yn aelodau staff Dŵr Cymru a oedd mor falch o weld cyflwyniad CIC fel eu bod wedi mynd atynt i weld a fyddai modd cydweithio yn y dyfodol.
O ganlyniad, gweithiodd Dŵr Cymru yn agos gydag aelodau gweithredol CIC a’u gwahodd nhw i ddod i gyflwyno araith, yn rhan o weithdy, yn ystod y gynhadledd arloesedd flynyddol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama.
Mae gan Ddŵr Cymru gysylltiadau agos â sawl ysgol yng Nghaerdydd, yn enwedig ysgolion cynradd. Yn ystod eu cyflwyniadau, siaradodd y weithrediaeth am sut gall Dŵr Cymru ymgysylltu â’r bobl ifanc y maen nhw’n gweithio gyda nhw mewn ysgolion drwy gysylltu profiadau byd go iawn yn natblygiadau’r cwricwlwm newydd. O ran cryfhau’r perthnasoedd hyn/creu cysylltiadau newydd ag ysgolion, rhoddodd y weithrediaeth wybod i Ddŵr Cymru y gallent wella a chynyddu’r effaith y maen nhw’n ei chael ar bobl ifanc drwy eu hannog i gyfranogi a thrwy’u hysbrydoli nhw.
Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru’n cynnig dau fath o raglen addysg: y rhaglen brentisiaeth a’r rhaglen raddedig. Anogodd y weithrediaeth ymgysylltu â phobl ifanc ynghylch y cyfleoedd hyn, gan siarad am sut gall eu rhaglenni uno’r byd gwaith proffesiynol ac addysg i bobl ifanc.
I ddiolch am y cyflwyniad, rhoddodd Dŵr Cymru docynnau i weithrediaeth y CIC i fynd i badlfyrddio – mae’n debyg y bydd hyn yn digwydd yn ystod yr haf.
Cadwch lygad amdanom i’n gweld ni’n padlfyrddio!