Rights Respecting Schools

UNICEF

New Rights Respecting Schools Model Launched

Cardiff has set the ambitious goal of getting all its schools active in the UNICEF Rights Respecting Schools Award programme (RRSA). To help schools on their RRSA journey a suite of support and training has been launched.

A range of free citywide training has been planned, helping schools at the start of the journey as well as those schools who are further along with theirs. The UNICEF UK training enables schools to gain new skills, share ideas and embed children’s rights in the curriculum and across school life.

Cardiff Council in partnership with UNICEF UK have negotiated a range of subsidies for schools from when they’re initially registering on to the programme through to when they’re being assessed for their award.

Sarah Hooke, UNICEF Rights Respecting School Lead Advisor for Wales, said ‘It’s great to see so many schools in Cardiff now involved in the programme, with this new approach to support schools I can only see the number growing’.

Lee Patterson, Child Friendly City Coordinator for Cardiff, said ‘There has been a significant interest from schools, we now have over half of our schools active within the Rights Respecting Schools Programme putting children’s rights at the heart of school communities’.

The first citywide training for new schools on the programme will take place on 6th June.

Keep an eye out for an update as to how it goes!

Ysgolion sy’n Parchu Hawliau

Lansio Model Newydd Ysgolion sy’n Parchu Hawliau

Mae Caerdydd wedi gosod targed uchelgeisiol o sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan mewn rhaglen Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF (GYPH). Er mwyn helpu ysgolion ar eu taith GYPH, mae ystod o gymorth a hyfforddiant wedi’i lansio.

Mae amrywiaeth o hyfforddiant am ddim wedi’i gynllunio ledled y ddinas, er mwyn helpu ysgolion ar ddechrau’r daith ynghyd â’r ysgolion hynny sydd bellach ymlaen ar eu taith. Mae’r hyfforddiant gan UNICEF UK yn galluogi ysgolion i ennill sgiliau newydd, rhannu syniadau ac ymgorffori hawliau plant i’r cwricwlwm a phob rhan o fywyd ysgol.

Ar y cyd ag UNICEF UK, mae Cyngor Caerdydd wedi cyd-drafod amrywiaeth o cymorthdaliadau gan ysgolion pan fyddant yn cofrestru ar y rhaglen i ddechrau, hyd nes eu bod yn cael eu hasesu ar gyfer gwobr.

Dywedodd Sarah Hooke, Ymgynghorydd Arweiniol Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF Cymru: ‘Mae’n wych gweld cymaint o ysgolion yng Nghaerdydd ynghlwm wrth y rhaglen bellach, a chyda’r dull newydd hwn o gefnogi ysgolion, rwy’n siŵr y bydd y nifer yn tyfu ymhellach’.

Dywedodd Lee Patterson, Cydlynydd Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd, ‘Mae ysgolion wedi bod â diddordeb sylweddol – bellach mae dros hanner ein hysgolion yn cymryd rhan yn y Rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau, gan roi hawliau plant wrth wraidd cymunedau ysgolion’.

Bydd yr hyfforddiant dinas gyfan cyntaf i ysgolion sy’n newydd i’r rhaglen yn cael ei gynnal ar 6 Mehefin.

Cadwch lygad am ddiweddariad o ran sut mae’n mynd!

Leave a Reply