On the Saturday the 27th of April, members of Cardiff Youth Council’s (CYC’s) ‘support youth services’ priority subgroup began their training towards becoming young inspectors. They looked at the National Participation Standards, how to be assertive rather than aggressive or passive and also how different personality types can contribute in a group setting. The group also developed a series of interactive workshop sessions to deliver in ACT, a Cardiff based training provider, to the young people on their training courses.
Alana (17) says, “The training helped me to become more aware of what is currently going on in the city around us [this was in reference to the session delivered around EOTAS provision in Cardiff in order to educate them about the work ACT do]. It also helped me develop different skills including how to inspect alternative education provisions.”
During the 6 hour training day the young people experienced a breadth of different training, they got to enjoy some pizza as well as some team building games and exercises. This training will enable them to feel confident when interacting with the students of ACT and enable them to carry out inspections in the future.
Watch this space for updates as to how they get on in ACT and for updates about any other upcoming inspections.
Hyfforddiant Archwilwyr Ifanc
Ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill, dechreuodd aelodau is-grŵp blaenoriaeth ‘cefnogi gwasanaethau ieuenctid’ Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) eu hyfforddiant i fod yn archwilwyr ifanc. Edrychon nhw ar y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol, sut i fod yn bendant yn hytrach nag yn ymosodol neu’n oddefol, a sut gall personoliaethau gwahanol gyfrannu at sefyllfa grŵp. Gwnaeth y grŵp hefyd ddatblygu cyfres o sesiynau gweithdy rhyngweithiol i’w cyflawni yn ACT, darparwr hyfforddiant Caerdydd, i’r bobl ifanc ar eu cyrsiau hyfforddiant.
Dywedodd Alana (17), “Helpodd yr hyfforddiant fi i ddod yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn y ddinas o’n cwmpas ar hyn o bryd [roedd hyn yn ymwneud â’r sesiwn a ddarparwyd ynghylch darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol yng Nghaerdydd er mwyn eu haddysgu nhw am y gwaith y mae ACT yn ei wneud]. Gwnaeth helpu fi hefyd i ddatblygu sgiliau gwahanol gan gynnwys sut i archwilio darpariaethau addysg amgen.”
Yn ystod y diwrnod hyfforddiant 6 awr, cafodd y bobl ifanc amrywiaeth eang o hyfforddiant gwahanol, cawsant fwynhau ychydig o bizza, ynghyd â gemau ac arferion adeiladu tîm. Bydd yr hyfforddiant hwn yn eu galluogi nhw i deimlo’n hyderus wrth ryngweithio â myfyrwyr ACT a’u galluogi nhw hefyd i gynnal archwiliadau yn y dyfodol.
Cadwch lygad am ddiweddariadau ynglŷn â sut i fanteisio ar ACT ac ar ddiweddariadau am unrhyw archwiliadau eraill yn y dyfodol.