Members of the Child Friendly City Advisory Board and Youth Health Board came together during the Easter holidays to receive training from UNICEF UK. The half-day session was delivered by Jeni Bainbridge who travelled from London to Cardiff to deliver the course.
Advisory Board Chair Rose Melhuish (17) said ‘I really enjoyed the session, Jeni was great and we learned loads about children’s rights and the work that UNICEF deliver’
Cardiff and Vale Health Board launched their Youth Health Board and Rights Charter in November last year and the board members have been busy.
They have taken part in interviews and received a range of training including safeguarding.
Lisa Cordery who supports the Youth Health Board said ‘This is a great opportunity for them to meet other young people and gain new skills, they are so keen they have given up a whole day of their school holidays!’
Both groups of young people will now work together to ensure that children and young people across the city are able to claim their rights and live in an even more child friendly city.
UNICEF yn Hyfforddi Pobl Ifanc
Daeth aelodau’r Bwrdd Cynghori Dinas sy’n Dda i Blant a Bwrdd Iechyd Ieuenctid ynghyd yn ystod gwyliau’r Pasg i gael hyfforddiant gan UNICEF UK. Jeni Bainbridge oedd yn arwain y sesiwn hanner diwrnod, gan deithio o Lundain i Gaerdydd i gyflwyno’r cwrs.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cynghori, Rose Melhuish (17), ‘Mwynheais y sesiwn yn fawr iawn. Roedd Jeni’n wych a dysgom lawer iawn am hawliau plant a’r gwaith bod UNICEF yn ei wneud’
Lansiodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro eu Bwrdd Iechyd Ieuenctid a’r Siarter Hawliau ym mis Tachwedd y llynedd ac mae aelodau’r bwrdd wedi bod yn brysur iawn.
Maent wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau ac wedi derbyn amrywiaeth o hyfforddiant gan gynnwys diogelu.
Dywedodd Lisa Cordery sy’n cefnogi’r Bwrdd Iechyd Ieuenctid, ‘Mae hyn yn gyfle gwych iddyn nhw gwrdd â phobl ifanc eraill a magu sgiliau newydd. Maent mor awyddus fel eu bod wedi neilltuo diwrnod cyfan o’u gwyliau ysgol ar gyfer hyn!’
Bydd y ddau grŵp o bobl ifanc yn cydweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled y ddinas yn gallu manteisio ar eu hawliau a byw mewn dinas sydd hyd yn oed yn fwy ‘da i blant’.