Grand Council

Cardiff 2030 Education Strategy Development

The development of Cardiff 2030, a ten-year strategy for education in Cardiff, is under way through education partnership arrangements, co-ordinated by the Cardiff Education Development Board. This requires a bold, ambitious and collaborative approach, which builds on the successes achieved over the past five years to prepare children and young people to thrive in a rapidly changing world. Strong collaboration and partnership working will continue to be at the heart of the development of the next iteration of the Cardiff 2030 strategy, recognising that “Education is Everybody’s Business”.

gc

The meaningful engagement of children, young people, school leaders, governors, elected members and partners in securing the vision for Cardiff 2030 is key to fulfilling the delivery of the Child Friendly City Strategy to ensure that Cardiff is ‘a great place to grow up’:

  • A city with children and young people at its heart, where the voices, needs and rights of all children and young people are respected;
  • A city where all children and young people, regardless of belief, ethnicity, background or wealth are safe, healthy, happy and able to share in the city’s success.

The aim of the grand council event was to gather the views and ideas, of children and young people, of what education could look like in 2030. The data gathered will then be used to influence the Cardiff 2030 Education Strategy.

gc1

20 children and young people from 30 schools, 10 secondary and 20 primary, from across Cardiff attended the event which was run by the Active Involvement Team and supported by staff from Cardiff Youth Service’s post 16 mentor programme, Grassroots, the education departments international school linking team, American university student Emma Watkins, Thornhill Primary School, Cantonian High School, Bishop of Llandaff High School pupil Agnes Little and Hushland Creative.

gc2

Y Cyngor Mawr

Datblygu Strategaeth Addysg Caerdydd 2030

Mae datblygu Caerdydd 2030, strategaeth deng mlynedd ar gyfer addysg yng Nghaerdydd, ar waith trwy drefniadau partneriaeth addysg, ac fe’i cydlynir gan Fwrdd Datblygu Addysg Caerdydd. Mae hyn yn gofyn am ddull mentrus, uchelgeisiol a chydweithiol, sy’n adeiladu ar lwyddiannau’r pum mlynedd diwethaf i baratoi plant a phobl ifanc at ffynni mewn byd sy’n newid yn gyflym. Bydd cydweithio cryf a gwaith partneriaeth yn aros wrth galon datblygu yn strategaeth nesaf Caerdydd 2030 gan gydnabod bod “Addysg yn Fusnes i Bawb”.

Mae ymgysylltiad ystyrlon â phlant, pobl ifanc, arweinwyr ysgol, llywodraethwyr, aelodau etholedig a phartneriaid wrth sicrhau’r weledigaeth ar gyfer Caerdydd 2030 yn allweddol er mwyn gweithredu’r Strategaeth Dinas sy’n Dda i Blant i sicrhau bod Caerdydd yn ‘lle gwych i dyfu’n hŷn’ ynddo.

Dinas gyda phlant a phobl ifanc wrth ei chalon, lle caiff llais, anghenion a hawliau plant a phobl ifanc eu parchu;

Dinas lle mae plant a phobl ifanc, waeth beth yw eu crefydd, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth yn ddiogel, iach, hapus ac yn gallu rhannu llwyddiant y ddinas.

Nod digwyddiad y cyngor mawr oedd casglu barn a syniadau plant a phobl ifanc ynghylch sut gallai addysg fod yn 2030. Yna defnyddir y data a gasglwyd i ddylanwadu ar Strategaeth Addysg Caerdydd 2030.

Aeth 120 o blant a phobl ifanc o 30 ysgol, 10 uwchradd a 10 cynradd o ledled Caerdydd i’r digwyddiad a gynhaliwyd gan y Tîm Cyfraniad Actif gyda chefnogaeth gan staff rhaglen fentora ôl 16 Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Grassroots, tîm cysylltu ysgolion rhyngwladol yr adran addysg, myfyrwraig o brifysgol yn America, Emma Watkins, Ysgol Gynradd Draenen Pen y Ddraig, Ysgol Gynradd Cantonian, disgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Agnes Little a Hushland Creative.

One thought on “Grand Council

Leave a Reply