Training your Brain

Written by Victor Ciunca, MYP for Cardiff

As is well known, our brain is a very important factor in regards to the whole situation of Covid19 which may cause stress and worries. Our brain can overthink, exaggerate and we can all spiral. In the end we are all human but, as young person, I believe that in times of such distress we need to have control. That means we need to retrain our brain! Here are some suggestions: Exercise, Exercise and Exercise! Physical activity is a great way to relieve stress, and distract your brain from well, spiraling! Exercise reduces the level of the body’s stress hormones, such as adrenaline. It also stimulates the production of endorphins which are chemicals in the brain that are the body’s natural painkillers and mood elevators. Going outside for a specific purpose which will help you emotionally and physically is not the end of the world as long as you protect yourself and take care in protecting others.

At the end of the day, even the government has said that it is allowed for you to go outside and get exercise! If you are not comfortable with going outside then do exercise in-doors. Intellectually train your brain! Read that book you always said you will, but you put it off because you were revising for your GCSE’s. Start writing that novel or book that you could never find time to fit in your busy schedule and let go of your imagination. Learn a new language… Scrap that learn two! All of the things that you never found time to do because of your exams, do them; the options are limitless. With exams cancelled you have the chance to explore yourself, and truly find out about yourself more than ever! You have lots of time, so use it wisely, for once time is on your side! Develop yourself, keep yourself busy and grow as an individual, and you will realize that time will truly fly!

Twitter – @VictorCiuncaMYP

Victor

Hyfforddi eich Ymennydd

Ysgrifennydd gan Victor Ciunca, ASI am Gaerdydd

Fel sydd wedi’i grybwyll, mae ein hymennydd yn ffactor pwysig iawn o ran holl sefyllfa Covid-19 a all achosi straen a phryderon. Gall ein hymennydd orfeddwl, gorliwio a gallwn ni i gyd hel meddyliau. Yn y pen draw bodau dynol ydyn ni i gyd ond, fel person ifanc, rwy’n credu y bydd angen i ni gael rheolaeth ar adegau o ofid o’r fath. Mae hynny’n golygu bod angen i ni ailhyfforddi ein hymennydd! Dyma rai awgrymiadau: Ymarfer corff, ymarfer corff ac ymarfer corff! Mae gweithgarwch corfforol yn ffordd wych o leddfu straen, a thynnu sylw’r ymennydd oddi ar, wel, hel meddyliau! Mae ymarfer corff yn lleihau lefel hormonau straen y corff, fel adrenalin. Mae hefyd yn ysgogi cynhyrchu endorffinau sy’n gemegau yn yr ymennydd sy’n boenladdwyr naturiol y corff ac yn codi hwyliau. Dyw mynd allan at ddiben penodol a fydd yn eich helpu yn emosiynol ac yn gorfforol ddim yn ddiwedd y byd, cyhyd â’ch bod yn gwarchod eich hun ac yn cymryd gofal wrth warchod eraill.

Wedi’r cwbl, mae hyd yn oed y Llywodraeth wedi dweud eich bod yn cael mynd allan ac ymarfer corff! Os nad ydych yn gyfforddus yn mynd allan i’r awyr agored yna gwnewch ymarfer corff dan do. Hyfforddwch eich ymennydd yn ddeallusol! Darllenwch y llyfr hwnnw yr oeddech bob amser yn bwriadu ei ddarllen, ond i chi ei roi o’r neilltu am eich bod yn adolygu ar gyfer eich TGAU. Dechreuwch ysgrifennu’r nofel neu’r llyfr hwnnw nad oeddech chi fyth yn gallu ffitio yn eich amserlen brysur, a gadewch i’ch dychymyg grwydro. Dysgwch iaith newydd … wel o ran hynny, dysgwch ddau! Yr holl bethau hynny na wnaethoch erioed gael amser i’w gwneud oherwydd eich arholiadau; gwnewch nhw, mae’r dewisiadau’n ddiderfyn. Gydag arholiadau wedi’u canslo, mae cyfle i chi archwilio eich hun, a dysgu amdanoch chi eich hun yn fwy nag erioed! Mae gennych lawer o amser, felly defnyddiwch ef yn ddoeth. Am unwaith mae amser o’ch plaid! Datblygwch eich hun, cadwch eich hun yn brysur a thyfwch fel unigolyn, a byddwch yn sylweddoli bod amser wirioneddol yn hedfan!

Trydar – @VictorCiuncaMYP

Leave a Reply