Hi, my name is Daisy and in this article I am going to be sharing my lockdown experience.
Overall I would say it has been a positive experience although I would hope it doesn’t make a reappearance after we are out of it all. During lockdown I have spent my days outside when I can, although that can be a struggle for me as I have very bad hay fever. I have also had a lot of school work and DIY jobs around the house. I have helped paint the outside of our house and paint my room. Before lockdown started we had an extension built so as a family we have spent lots of time trying to make that space less like a cement block!
I have been trying to go for a run every morning to keep up with my daily exercise. If you can I would recommend doing a project whilst we are in lockdown. I for one have written to Kirsty Williams to show a high schooler’s side and opinions on going back. I have also interviewed her over google hangouts and it has really brought to light how much we can do over the internet while we are not at home. My school has tried to keep everyone positive via social media and I hope you are all doing well!
Daisy, 13
Shwmae, fy enw i yw Daisy ac yn yr erthygl hon dwi’n mynd i fod yn rhannu fy mhrofiad o’r cyfnod cloi.
Ar y cyfan, byddwn i’n dweud ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol, ond dwi’n gobeithio na fydd yn gwneud ailymddangosiad ar ôl i ni ddod drwyddi. Yn ystod y cyfnod cloi dwi wedi bod yn treulio fy nyddiau tu fas pan yn bosib, er bod hynny’n gallu bod yn anodd i fi gan fod ‘da fi glefyd y gwair drwg iawn. Dwi hefyd wedi cael llawer o waith ysgol a thasgau DIY o gwmpas y tŷ. Dwi wedi helpu i beintio tu allan ein tŷ a phaentio fy ystafell. Cyn i’r cyfnod cloi ddechrau cafodd estyniad ei adeiladu ar ein tŷ, felly fel teulu ry’n ni wedi treulio llawer o amser yn ceisio gwneud y gofod hwnnw’n llai fel bloc o sment!
Dwi wedi bod yn trio mynd i redeg bob bore fel ymarfer corff dyddiol. Os gallwch chi, byddwn yn argymell gwneud prosiect yn ystod y cyfnod cloi. Yn bersonol, dwi wedi ysgrifennu at Kirsty Williams i ddangos safbwynt disgybl uwchradd a fy marn ar fynd yn ôl. Rwyf hefyd wedi cyfweld â hi dros Google Hangouts sydd wir wedi dangos faint y gallwn ni ‘neud dros y rhyngrwyd tra ein bod ni gartref. Mae fy ysgol wedi ceisio cadw pawb yn bositif drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a dwi’n gobeithio eich bod chi i gyd yn gwneud yn iawn.