Written by Martha Templeman – Lilley
When I started high school in September, I imagined being utterly thrilled on the last day of the year to be able to kick back and watch some TV without worrying about homework or the deafening alarm sounding at 6am. The last thing I expected, was by the time that wonderous July day was not that far in the distance, the memory of my confusing timetable and the racket of the canteen queue had already begun to slowly fade away. This year could not have gone any differently to what I originally envisioned when it began. In some ways it has been completely hellish, and the world has been ruined some may say beyond repair, but for me personally, this has been a brilliant couple of months.
For the first time ever, I have a flourishing social life, I am relaxed for the vast majority of the time and have had opportunities to do so many things I have wanted to do for a very, very long time. The world is an extremely different place to what it was a year ago, as I was preparing for one of the biggest transitions in my life, but that does not necessarily mean that this enormous, global change is an entirely negative event. In fact, it opens the world up to new possibilities which I am sure will bring us out of the deep, dark tunnel we are currently trapped in and into a new and exciting world created from the ways we have adapted and the resilience we have shown during these unimaginable times.
Fy Mhrofiad i o’r Cyfnod Cloi
gan Martha Templeman – Lilley
Pan ddechreuais i yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi, ro’n i’n edrych ‘mlaen at gael joio mas draw ar ddiwrnod olaf y flwyddyn a gallu ymlacio a gwylio’r teledu heb boeni am waith cartref neu’r larwm byddarol yn canu am 6am. Y peth olaf o’n i’n ei ddisgwyl oedd, erbyn y diwrnod hudolus ‘na ym mis Gorffennaf, sydd ar y gorwel, y byddai’r atgof o fy amserlen ddryslyd a thwrw’r ciw cinio wedi dechrau diflannu yn barod. Ni allai’r flwyddyn hon fod wedi bod yn fwy gwahanol i’r hyn ro’n i’n ei ddisgwyl. Mewn rhai ffyrdd, mae wedi bod yn hollol uffernol, ac mae rhai pobl yn dweud bod y byd wedi cael ei ddifetha y tu hwnt i obaith, ond i fi yn bersonol, mae’r rhain wedi bod yn gwpl o fisoedd gwych.
Am y tro cyntaf erioed, mae gen i fywyd cymdeithasol ffyniannus, dwi’n llwyddo i ymlacio y rhan fwyaf o’r amser a dwi wedi cael cyfleoedd i wneud cymaint o bethau yr oeddwn i eisiau eu gwneud am amser hir iawn, iawn. Mae’r byd yn lle tra gwahanol i’r hyn ydoedd flwyddyn yn ôl, pan o’n i’n paratoi am un o’r newidiadau mwyaf yn fy mywyd, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod y newid enfawr, byd-eang hwn yn ddigwyddiad cwbl negyddol. Yn wir, mae’n agor y byd i bosibiliadau newydd a fydd, dwi’n siŵr, yn dod â ni allan o’r twnnel dwfn, tywyll yr ydym yn sownd ynddo ar hyn o bryd ac i fyd newydd a chyffrous a grëwyd o’r ffyrdd yr ydym wedi addasu a’r gwydnwch yr ydym wedi’i ddangos yn ystod yr amseroedd digynsail hyn.