With fatal stabbings across England and Wales at their highest levels since records began in 1946, and knife and gun crime rising by 21% last year alone, there is a clear indication that the current approaches to tackling violent crime need urgent revision.
CYC members have been working with Cardiff Youth Service’s Senior Youth Officers (SYOs) to develop a knife crime awareness workshop that can be delivered in schools across the city.
Young people have identified that the workshop needs to include what the law says and what the consequences are, both from a legal standpoint and its emotional impact on people and their families.
CYC members and other young people from the youth service came together in Grassroots to trial and evaluate the workshop and its activities. They then tasked the SYOs to deliver to a school group and to evaluate once done. The date for this has been set for the 8th of March with a Cardiff school and working in partnership with Fearless (a website where you can access non-judgemental information and advice about crime and give information about crime – 100% anonymously) and Street Doctors, who use first aid as a tool to educate and empower young people.
There has also been the development of a working group made up of organisations, across the city, that currently deliver knife crime awareness sessions in schools.
The purpose of the working group is to gain an understand of who is delivering what and to which schools. This should help to prevent duplication, and also quality assure that all partners are working to the same standards.
Is-grwp troseddau cyllell
Gyda marwolaeth drwy drywanu â chyllell ledled Cymru a Lloegr ar y lefel uchaf ers y dechreuwyd cofnodi nifer yr achosion ym 1946, a thrais sy’n cynnwys cyllyll a drylliau yn cynyddu gan 21% y llynedd yn unig, mae’n amlwg bod angen ailystyried ar frys y dulliau cyfredol o fynd i’r afael â throseddau treisgar.
Mae aelodau CIC wedi bod yn gweithio gydag Uwch Swyddogion Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i lunio gweithdy codi ymwybyddiaeth am droseddau a gyflawnir â chyllyll y gellir ei gyflwyno mewn ysgolion ledled y ddinas.
Mae pobl ifanc wedi nodi bod angen i’r gweithdy gynnwys yr hyn a ddywed y gyfraith a beth yw’r canlyniadau, o safbwynt cyfreithiol ac o ran ei effaith emosiynol ar bobl ifanc a’u teuluoedd.
Daeth aelodau CIC a phobl ifanc eraill o’r gwasanaeth ieuenctid ynghyd yn Grassroots i dreialu a gwerthuso’r gweithdy a’i weithgareddau.
Yn dilyn hyn aethant ati i ofyn i’r Uwch Swyddogion gyflwyno’r gweithdy i grŵp mewn ysgol a’i werthuso. Caiff hyn ei wneud ar 8 Mawrth mewn ysgol yng Nghaerdydd ac mewn partneriaeth â Fearless (gwefan sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor anfeirniadol am droseddau yn ogystal â gwybodaeth am droseddau – yn hollol ddienw) a Street Doctors, sy’n defnyddio cymorth cyntaf fel dull o addysgu a grymuso pobl ifanc.
Hefyd sefydlwyd gweithgor sy’n cynnwys sefydliadau ledled y ddinas sy’n cyflwyno sesiynau ar godi ymwybyddiaeth am droseddau a gyflawnir â chyllyll mewn ysgolion ar hyn o bryd.
Diben y gweithgor yw ceisio dod i ddeall pwy sy’n cyflwyno beth ac ym mha ysgolion. Dylai hyn helpu i osgoi ailadrodd, yn ogystal â sicrhau bod yr holl bartneriaid yn gweithio hyd at yr un safon.