Through the support of Cardiff Council’s International School Linking officer, Emily Daly, AIT has been awarded funding through Erasmus+, the European Union programme for education, training, youth and sport. This funding will allow Cardiff Youth Council to develop & deliver a set of key activities which aims to bring together youth councils and forums from all local authorities across Wales, Somerset and Bristol & Avonmouth to look at environmental sustainability.
This has stemmed from another project that youth council members have been involved in which has been to look at Flatholm, an island just off the coast of Cardiff in the Bristol Channel, and how its history, heritage and environmental makeup can be brought, educationally, to the masses as part of a Heritage Lottery bid.
16 CYC members attended a 2 night residential on Flatholm at the end of July. This was hosted by Cardiff Harbour Authority and the RSPB and aimed to introduce the group to Flatholm’s history and environment and to look at ways in which the project could best entice others to get involved both in the short and long term.
There were a number of historical and environmental features that the group was introduced to such as the Victorian armaments, buildings and fresh water collection system, the cholera hospital, Second World War escarpments, gull colonies and the island’s flora and fauna.
The group was tasked with taking images and video of the things that most sparked an interest and to come up with ideas of how these could help capture the imagination of others.
The Erasmus+ funding will now allow CYC to take this process further and also allow the Harbour Authority to engage with other young people from across Wales. Please keep an eye out for future editions for updates on this project.
Erasmus+
Mae AIT wedi cael cyllid trwy Erasmus+, rhaglen addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i Gyngor Ieuenctid Caerdydd ddatblygu a darparu cyfres o weithgareddau allweddol sydd â’r nod o ddod â chynghorau ieuenctid a fforymau ynghyd o bob awdurdod lleol ledled Cymru, Gwlad yr Haf a Bryste ac Avonmouth i ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae hyn wedi deillio o broject arall y mae aelodau’r cyngor ieuenctid wedi cymryd rhan ynddo sef archwilio Ynys Echni, ynys oddi ar arfordir Caerdydd a Môr Hafren, a sut y gellir rhannu ei hanes, treftadaeth a chyfansoddiad amgylcheddol, mewn modd addysgol, â chynulleidfa ehangach fel rhan o’r cynnig Loteri Treftadaeth.
Aeth 16 aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd ar drip preswyl 2 noson i Ynys Echni ar ddiwedd Gorffennaf. Cynhaliwyd y trip gan Awdurdod Harbwr Caerdydd a’r RSPB gyda’r nod o gyflwyno’r grŵp i hanes ac amgylchedd Ynys Echni ac ystyried ffyrdd y gall y project ddenu eraill i gymryd rhan yn y tymor byr a’r tymor hir.
Cafodd y grŵp eu cyflwyno i nifer o nodweddion hanesyddol ac amgylcheddol megis yr arfogaethau, adeiladau a system casglu dŵr ffres Fictoraidd, yr ysbyty colera, tarenni’r Ail Ryfel Byd, cytrefi gwylanod a fflora a ffawna’r ynys.
Rhoddwyd tasg i’r grŵp dynnu lluniau a gwneud fideo o’r pethau a ddenodd eu diddordeb a meddwl am syniadau o ran sut y gallai’r rhain helpu i gipio dychymyg eraill.
Bydd cyllid Erasmus+ nawr yn caniatáu i Gyngor Ieuenctid Caerdydd ymestyn y broses hon ac hefyd yn galluogi’r Awdurdod Harbwr ymgysylltu â phobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru.