Subgroups (CYC Priorities)

Is-grwpiau (Blaenoriaethau’r CIC)

Mental Health and Wellbeing 2018 – 2020

Over the last academic year Cardiff Youth Council (CYC) has worked on its priority of Mental Health & Wellbeing (MH&W).

The group identified that in order for them to gain a good understanding of what current MH&W services for children and young people exist already, and how best to influence and shape future services, then a number of tasks would need to be done, which included:

  • Research and identify current models, tools and services for the support of children and young people’s (C&YP) MH&W
  • Identify preventative support that could help reduce the need for escalation to mental health & wellbeing interventions such as Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
  • What services/support children and young people need
  • Identifying new ways in which services could be delivered to children and young people

The group have also had members sitting on a number of strategic/task groups to try and gauge what the current thinking is amongst decision makers, these are:

  • C&YP Scrutiny Committee
  • Scrutiny mental health task group
  • CAMHS repatriation steering group
  • CAMHS repatriation development group

Report & Key Recommendations

After their engagement and research the group have written a report which identifies some of the issues faced by C&YP, the adults who work and support them, the environment in which they learn and the oversight of services provided. The report then goes on to present a number of key recommendations that young people say is needed for things to improve. This report will soon be published and sent out to a number of key people and organisations that the group have identified.

Going Forward

Usually CYC set three new priorities at the start of each academic year but this year has been a little different.

As part of their work last year CYC identified a number of ways in which they would like to promote MindHub which were:

  • The creation of two videos
    • The first – a 2 min live action film in which young people talk about some of the issues they face that cause poor MH&W and which promotes MindHub
    • The second – a 20-30sec animated film that can be used to promote MindHub on various platforms such as social media sites
  • Update the MindHub website with changes identified by users
  • Posters and banners that can be displayed in schools and other locations across the city.

In order to achieve the above CYC needed funding and applied to Cardiff Youth Service for money through a Welsh Government Grant aimed at improving MH&W for young people.

This funding has been approved but due to the approval not coming through until after the start of the new academic year, 2019-2020, CYC decided to continue the MH&W priority subgroup without going through the usual channels of debating and voting on priority issues.

This means that the subgroup can now go on and proceed with the work above.

As well as this work the group are in the process of looking at what they can also do over the rest of this academic year to further their goal in helping young people with their MH&W.

Keep an eye out for their work in upcoming editions.

Iechyd Meddwl a Lles 2018 – 2019

Cyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) wedi gweithio ar ei flaenoriaeth, sef Iechyd Meddwl a Lles. Nododd y grŵp fod angen gwneud nifer o dasgau er mwyn iddynt gael dealltwriaeth dda o’r gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles presennol sydd ar gyfer plant a phobl ifanc a’r ffyrdd gorau o ddylanwadu ar wasanaethau’r dyfodol a’u siapio, roedd hyn yn cynnwys:

  • Ymchwilio ac adnabod modelau presennol, dulliau a gwasanaethau ar gyfer cynorthwyo Iechyd Meddwl a Lles plant a phobl ifanc.
  • Nodi cymorth ataliol a allai helpu i leihau’r angen am uwchgyfeirio i ymyriadau iechyd meddwl a lles megis Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).
  • Pa wasanaethau/cymorth y mae eu hangen ar blant a phobl ifanc.
  • Nodi’r ffyrdd newydd y gellid cyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

Bu aelodau o’r grŵp hefyd ar nifer o grwpiau strategol/gorchwyl i geisio deall beth yw’r meddylfryd ar hyn o bryd ymhlith y rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

  • Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
  • Grŵp Gorchwyl Craffu Iechyd Meddwl
  • Grŵp Llywio Dychweliad CAMHS
  • Grŵp Datblygu Dychweliad CAMHS

Adroddiad ac Argymhellion Allweddol

Ar ôl eu hymrwymiad ac ymchwil, mae’r grŵp wedi ysgrifennu adroddiad sy’n nodi rhai o’r materion y mae Plant a Phobl Ifanc yn eu hwynebu, yr oedolion sy’n gweithio ac yn eu cefnogi, yr amgylchedd y maent yn dysgu ynddo a’r oruchwyliaeth a roddir ar wasanaethau. Yna, cyflwyna’r adroddiad nifer o argymhellion allweddol sydd eu hangen yn ôl y bobl ifanc er mwyn i bethau wella. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn fuan a’i anfon i nifer o bobl a sefydliadau allweddol yn mae’r grŵp wedi eu hadnabod.

Symud ymlaen

Fel arfer, mae’r CIC yn gosod tair blaenoriaeth newydd ar ddechrau pob blwyddyn academaidd ond eleni, bu hyn ychydig yn wahanol. Fel rhan o’u gwaith y llyned, nododd y CIC nifer o ffyrdd yr hoffent hyrwyddo HybMeddwl, sef:

  • Creu dau fideo.
    • Bydd y cyntaf – ffilm 2 funud gyda phobl ifanc yn trafod rhai o’r problemau y maent yn eu hwynebu sy’n achosi Iechyd Meddwl a Lles gwael ac yn hyrwyddo HybMeddwl.
    • A’r ail fydd ffilm 20-30 eiliad y gellir ei defnyddio i hyrwyddo’r HybMeddwl ar wahanol blatfformau, megis safleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Diweddaru gwefan yr HybMeddwl gyda newidiadau a nododd defnyddwyr.
  • Posteri a baneri y gellir eu harddangos mewn ysgolion ac mewn llefydd eraill trwy’r ddinas.

Er mwyn gwneud y pethau uchod, roedd angen arian ar y CIC, a gwnaeth gais i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd am arian trwy Grant Llywodraeth Cymru y’i nod yw gwella Iechyd Meddwl a Lles i bobl ifanc.

Mae’r arian wedi ei gymeradwyo ond oherwydd na chafodd ei gymeradwyo tan ar ôl cychwyn y flwyddyn academaidd newydd, 2019-20, penderfynodd CIC fwrw ymlaen ag is-grŵp blaenoriaeth Iechyd Meddwl a Lles heb fynd trwy’r sianelau arferol o ddadlau a phleidleisio ar faterion blaenoriaeth.

Golyga hyn y gall yr is-grŵp nawr fynd ymlaen â’r gwaith uchod.

Yn ogystal â’r gwaith hwn, mae’r grŵp wrthi’n edrych ar beth gall ei wneud dros weddill y flwyddyn academaidd hon i weithio at eu nod o helpu pobl ifanc â’u Hiechyd Meddwl a Lles.

Cadwch lygad am eu waith yn rhifynnau nesaf.

Knife Crime 2018 – 2019

With fatal stabbings across England and Wales at their highest levels since records began in 1946, and knife and gun crime rising by 21% last year alone, there is a clear indication that the current approaches to tackling violent crime need urgent revision.

CYC members have been working with Senior Youth Officers (SYOs) over the last year to develop a knife crime (KC) awareness workshop that can be delivered in schools across the city. Members helped with identifying what needed to be in the workshop by looking at the law, consequences, why young people carry knives and the media’s role in knife crime.

Members of the KC subgroup worked with young people from different youth centres across the city to develop the workshop and trial it. After evaluating the session, members asked us to trial it again in a school setting with the workshop being delivered to over 200 young people. Work shop resources were developed around the Fearless model.

Fearless is a site where you can access non-judgemental information and advice about crime and a safe place to give information about crime – 100% anonymously.

There was also the development of a task and finish group of organisations from across the city that deliver knife crime awareness sessions in schools. The purpose of the group was to understand, who is delivering what and to which schools, this was a way to stop duplication and also to quality assure that we are all working to the same standard and sharing the same messages.

This culminated in the development of a leaflet, Supporting Youth Knife Crime Prevention in Cardiff – A Resource for Professionals Working with Young People; that highlighted key organisations that are working on the Knife Crime agenda in Cardiff. This resource has been shared with a number of partners and all schools across the city.

Troseddau Cyllyll 2018 – 2019

Gyda marwolaeth gan droseddau cyllell ledled Cymru a Lloegr ar y lefel uchaf ers y dechreuwyd eu cofnodi ym 1946, a thrais sy’n cynnwys cyllyll a gynau yn cynyddu gan 21% y llynedd yn unig, mae’n amlwg bod angen ailystyried ar frys y dulliau cyfredol o fynd i’r afael â thrais a throseddau.

Mae aelodau CIC wedi bod yn gweithio gydag Uwch Swyddogion Ieuenctid i lunio gweithdy codi ymwybyddiaeth am droseddau â chyllyll y gellir ei gyflwyno mewn ysgolion ledled y ddinas.

Helpodd aelodau i nodi beth roedd angen ei gynnwys yn y gweithdy trwy edrych ar y gyfraith, y canlyniadau, pam mae pobl ifanc yn cario cyllyll a rôl y cyfryngau yn nhroseddau cyllyll. Gweithiodd aelodau’r is-grŵp troseddau â chyllyll â phobl ifanc o wahanol ganolfannau ieuenctid yn y ddinas i ddatblygu’r gweithdy a’i dreialu. Ar ôl gwerthuso’r sesiwn, gofynnodd aelodau i ni ei threialu eto mewn ysgol lle cyflwynwyd i gweithdy i dros 200 o bobl ifanc. Datblygwyd adnoddau ar gyfer y gweithdy ar sail y model Fearless.

Gwefan yw Fearless lle cewch fynediad at wybodaeth a chyngor heb feirniadaeth am droseddau a lle diogel i gael gwybodaeth am droseddau, a hynny yn 100% anhysbys.

Hefyd datblygwyd grŵp gorchwyl a gorffen yn cynnwys sefydliadau ledled y ddinas sy’n cyflwyno sesiynau ar godi ymwybyddiaeth am droseddau â chyllyll mewn ysgolion. Diben y grŵp oedd deall pwy sy’n cyflwyno beth ac i ba ysgolion. Roedd hon yn ffordd o atal dyblygu a hefyd i sicrhau ansawdd a sicrhau bod pawb yn gweithio at yr un safon ac yn rhannu’r un negeseuon.

Daeth hyn i anterth wrth ddatblygu taflen, Cynorthwyo Atal Troseddau â Chyllyll gan Bobl Ifanc yng Nghaerdydd – Adnodd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol â Phobl Ifanc a oedd yn amlygu sefydliadau allweddol sy’n gweithio ar yr agenda Troseddau â Chyllyll yng Nghaerdydd. Mae’r adnodd wedi ei rannu â nifer o bartneriaid a phob ysgol yn y ddinas.

Support Youth Services 2018 – 2019

Over the year the subgroup managed to achieve a lot. A portion if the work will follow into 2019 – 2020 but not as an official subgroup.

The subgroup initially looked at the youth work quality mark: silver level and created a survey based on the themes in it. They then asked youth service managers to ask their staff to complete it. After the staff had their say the subgroup decided to concentrate their efforts on another element of the quality mark, ensuring that services are implementing the 7 national participation standards for children and young people in Wales.

An opportunity then arose for them to work together with the achievement leader of Cardiff youth service and carry out an inspection on the training provider and tuition service ACT.

In order to do this the group needed to be trained as young inspectors. In the New Year Cardiff youth services will be undergoing inspections in an attempt to gain the national kite-mark for the service as a whole.

Gwasanaethau Ieuenctid Cynorthwyol 2018 – 2019

Dros y flwyddyn, cyflawnodd yr is-grŵp lawer iawn. Bydd rhan o’r gwaith hwnnw yn mynd ymlaen i 2019 – 20 ond nid fel is-grŵp swyddogol.

Yn gyntaf, edrychodd yr is-grŵp ar y marc ansawdd gwaith ieuenctid: lefel arian a chreodd arolwg ar sail y themâu yn hwnnw. Yna gofynnont i’r rheolwyr gwasanaeth ieuenctid ofyn i’w staff ei gwblhau. Ar ôl i’r staff gael dweud eu dweud, penderfynodd yr isgrŵp ganolbwyntio ei ymdrechion ar elfen arall o’r marc safon, gan sicrhau bod y gwasanaethau yn gweithredu’r 7 safon cyfranogi cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cododd cyfle wedyn iddynt gydweithio ag arweinydd llwyddiant gwasanaeth ieuenctid Caerdydd a chynnal archwiliad ar y darparwr hyfforddiant a’r gwasanaeth tiwtora ACT.

Er mwyn gwneud hyn, roedd angen hyfforddi’r grŵp fel archwilwyr ifainc. Yn y flwyddyn newydd, bydd gwasanaethau ieuenctid Caerdydd yn cael archwiliadau er mwyn ceisio cael marc barcud cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth ar y cyfan.

Protect the Environment 2019 – 2020

This year a new subgroup has been formed: protect the environment.

This subgroup came from the make your mark ballot, put forward by Connor Clarke, MYP for Cardiff and CYC member, and motions from CYC members and was voted for as a favourite.

The group have been researching what avenue they would like to prioritise as the topic has the potential to be broad. They are also looking to work with local councillors and the Welsh youth parliament.

Keep an eye out for their work in upcoming editions.

Amddiffyn yr Amgylchedd 2019 – 2020

Eleni, ffurfiwyd is-grŵp newydd: amddiffyn yr amgylchedd.

Daeth yr is-grŵp o’r bleidlais gwneud dy farc, fe’i cyflwynwyd gan Connor Clarke, ASI Caerdydd ac aelod CIC, a chynigion gan aelodau CIC a phleidleisiwyd hyn fel ffefryn.

Mae’r grŵp wedi bod yn ymchwilio pa drywydd yr hoffent ei flaenoriaethu oherwydd gall y testun fod yn un eang. Maent hefyd yn bwriadu gweithio gyda chynghorwyr lleol a senedd ieuenctid Cymru.

Cadwch lygad am eu gwaith yn y rhifynnau nesaf.

Welcoming Refugees 2019 – 2020

A new priority for the year is Welcoming refugees. This was on the make your mark ballot, put forward by Victor Ciunca, MYP for Cardiff and CYC member. As a result, CYC have prioritised it for the year.

The current plan is to work with Oasis Cardiff (who aim to provide a warm Welsh welcome for refugees and asylum seekers) and the refugee council for Wales (who speak out on behalf of those who are fleeing persecution, conflict and oppression) and find out what they do and how they support young people. They are interested in knowing if there is any scope to work together on the agenda of welcoming refugees into our city.

Keep an eye out for their work in upcoming editions.

Croesawu Ffoaduriaid 2019 – 2020

Blaenoriaeth newydd ar gyfer y flwyddyn yw Croesawu ffoaduriaid. Roedd hon yn fater ym mhleidlais gwneud dy farc, a gyflwynwyd gan Victor Ciunca, ASI dros Gaerdydd ac aelod o CIC. O ganlyniad, mae CIC wedi blaenoriaethu’r testun ar gyfer y flwyddyn.

Y cynllun presennol ydy gweithio ag Oasis Caerdydd (sy’n ceisio rhoi croeso cynnes Cymreig i ffoaduriaid a cheiswyr lloches) a chyngor ffoaduriaid Cymru (sy’n siarad ar ran y rhai sy’n ffoi erledigaeth, gwrthdaro a gorthrwm) a darganfod beth maen nhw’n wneud a sut maent yn cefnogi pobl ifanc. Maent eisiau gwybod os oes cwmpas i gydweithio ar agenda croesawu ffoaduriaid i’n dinas.

Cadwch lygad am eu gwaith yn y rhifynnau nesaf.

CYC

Leave a Reply