#BlackLivesMatter

CYC’s response to the global BLM movement

In June the outcry from the Black communities of the world was recognised. The gruesome death of George Floyd acted as a catalyst for global protests, marches and campaigns. Though this movement originated in America, Cardiff Youth Council recognise that racism exists here in the UK too. This was their response:

“3rd June 2020

Message from the Chairman:

Hello everyone I hope you’re all safe ad well. As I’m sure you are all aware the world is going through some extremely difficult times with new challenges hitting our communities on a daily basis.

One issue that has been brought to the forefront of the public conversation is the injustices our black communities have faced over the years. As a black young person myself, I know that racism in the United Kingdom is still alive and well and any other person of colour will tell you the same.

To see everyone come together in support of black lives has given me new hope for the future as ignorance has been removed from the eyes of many. 

Everyone with a loving heart has shown that they will not stand for racism. Not speaking up is being complacent and a majority of the world has spoken and we want change.

As a youth organisation that represents a diverse group of young people we have taken the decision to be a part of the change the world is calling for. These are our three pledges to tackle racism in our communities.

Pledge 1

We pledge to celebrate, promote and increase the prominence of black history month in our community. This will include schools, workplaces and other youth organisations to ensure everyone is educated in the contribution minority groups have made to the United Kingdom – i.e. Wind rush Generation.

Pledge 2

We pledge to challenge all forms of racism and discrimination towards all groups. We will actively challenge it by working with leaders and the community to come up with solutions to the problem we face.

Pledge 3

We pledge to continue to be a platform where every young person form all backgrounds can have their voices heard without fear of racism or discrimination.

We will continue to be the voice for all young people.

We will actively review our pledge every year moving forward.

Everyone wants change but social media posts and protests can only go so far. Our calls for change must be answered for our efforts to be worth anything.

We are calling for all leaders and people in positions of power to share with us how they are going to tackle this issue. What are your 3 pledges?

Business owners, politicians and leaders of organisations all have an opportunity to change the world moving forward. We want to see the creative ways you will tackle racism.

So to all you leaders, the people have spoken, let’s answer the call.

From: CYC Chair, executive and members”

The pledges were written by Fahadi Mukulu, chair of CYC at the time of writing.

CYC have since formed a group that is looking at raising awareness about Black history which will be shared city wide during a youth led Black History Month in October. The group are looking to put together a timeline of people, places, dates and events that make up Black history locally, nationally and internationally. The group are currently working with Wales Millennium Centre and Child Friendly Cities and are hoping to promote the seldom heard voices of our Black history.

#MaeBywydauDuOBwys

Ymateb CIC i’r mudiad byd-eang BDB

Ym mis Mehefin, cydnabuwyd gwaedd o brotest cymunedau Duon y byd. Roedd marwolaeth erchyll George Floyd wedi gweithredu fel catalydd ar gyfer protestiadau, gorymdeithiau ac ymgyrchoedd byd-eang. Er i’r mudiad hwn ddeillio o’r Unol Daleithiau, mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn cydnabod bod hiliaeth yn bodoli yma yn y DU hefyd. Dyma oedd ei ymateb:

“3 Mehefin 2020

Neges gan y Cadeirydd:

Helo bawb. Rwy’n gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n ddiogel ac iach. Fel rwy’n siŵr eich bod i gyd yn ymwybodol, mae’r byd yn mynd drwy gyfnod anodd iawn gyda heriau newydd yn bwrw ein cymunedau bob dydd.

Un mater sydd wedi’i ddwyn i flaen y drafodaeth gyhoeddus yw’r anghyfiawnderau y mae ein cymunedau duon wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd. Fel person ifanc du fy hun, rwy’n gwybod bod hiliaeth yn dal i fodoli yn y Deyrnas Unedig ac y bydd unrhyw berson arall o liw yn dweud yr un peth wrthych.

Mae gweld pawb yn dod at ei gilydd i gefnogi bywydau du wedi rhoi gobaith newydd i mi ar gyfer y dyfodol gan fod anwybodaeth wedi’i thynnu o lygaid llawer. 

Mae pawb sydd â chalon wedi dangos na fyddant yn sefyll dros hiliaeth. Mae peidio â siarad yn golygu ein bod yn hunanfodlon ac mae’r rhan fwyaf o’r byd wedi siarad ac rydym am gael newid.

Fel sefydliad ieuenctid sy’n cynrychioli grŵp amrywiol o bobl ifanc rydym wedi penderfynu bod yn rhan o’r newid y mae’r byd yn galw amdano. Dyma ein tri addewid i fynd i’r afael â hiliaeth yn ein cymunedau.

Addewid 1

Rydym yn addo dathlu, hyrwyddo a chynyddu amlygrwydd mis hanes pobl dduon yn ein cymuned. Bydd hyn yn cynnwys ysgolion, gweithleoedd a sefydliadau ieuenctid eraill i sicrhau bod pawb yn cael eu haddysgu am yr hyn y mae grwpiau lleiafrifol wedi’i gyfrannu i’r Deyrnas Unedig – h.y. Cenhedlaeth Windrush.

Addewid 2

Rydym yn addo herio pob math o hiliaeth a gwahaniaethu tuag at bob grŵp o bobl. Byddwn yn mynd ati i’w herio drwy weithio gydag arweinwyr a’r gymuned i gynnig atebion i’r broblem sy’n ein hwynebu.

Addewid 3

Rydym yn addo parhau i fod yn llwyfan lle y gall pob person ifanc o bob cefndir leisio’i farn heb ofni hiliaeth neu wahaniaethu.

Byddwn yn parhau i fod yn llais i bob person ifanc.

Byddwn yn mynd ati i adolygu ein haddewid bob blwyddyn wrth symud ymlaen.

Mae pawb yn galw am newid ond dim ond hyn a hyn y gall postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a phrotestiadau eu cyflawni. Rhaid ateb ein galw am newid er mwyn rhoi unrhyw werth i’n hymdrechion.

Rydyn ni’n galw ar bob arweinydd a phawb sydd mewn swyddi grymus i rannu gyda ni sut y maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r mater hwn. Beth yw eich tri addewid chi?

Mae gan berchnogion busnes, gwleidyddion ac arweinwyr sefydliadau i gyd gyfle i newid y byd ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni am weld y ffyrdd creadigol y byddwch yn eu defnyddio i fynd i’r afael â hiliaeth. 

Felly, i bob un ohonoch chi arweinwyr, mae’r bobl wedi siarad, gadewch i ni ateb yr alwad.

Oddi wrth: Cadeirydd, gweithrediaeth ac aelodau CIC”

Ysgrifennwyd gan Fahadi Mukulu, cadeirydd CIC ar adeg ysgrifennu’r darn hwn.

Ers hynny, mae CIC wedi ffurfio grŵp sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o hanes Pobl Dduon a fydd yn cael ei rannu ledled y ddinas yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon ym mis Hydref dan arweiniad ieuenctid. Mae’r grŵp yn gobeithio llunio llinell amser o bobl, lleoedd, dyddiadau a digwyddiadau sy’n rhan o hanes pobl dduon yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae’r grŵp yn gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a Dinasoedd sy’n Dda i Blant ac mae’n gobeithio hyrwyddo lleisiau ein hanes Du nas clywir yn aml.

Leave a Reply