Young Interviewers supported the recent interviews for the Director of Education for Cardiff Council
4 of our lead young interviewers recently supported the education directorate as they sat on their own virtual interview panel as part of the multi-levelled recruitment process for the new Director of Education and Lifelong Learning for Cardiff Council. 5 candidates were invited to interview and after much deliberation, the candidate that was selected was Melanie Godfrey. We welcome Melanie to the council and hope she will fill the boots of Nick Batchelar who is sadly leaving us.
The role includes having responsibility over leading the whole of the Education Directorate within Cardiff Council and includes Schools, Lifelong Learning, Youth Services, Admissions, Additional Learning Needs (ALN) and School Organisation and Planning (SOP), which includes the 21st Century Schools Programme investing £100s of millions into school development.
Nick Batchelar has been a great ally to CYC and their work and we would like to thank him for all the work he has done in this position to enable young people across the city to access and utilise their rights. We wish him all the best in his future endeavours.

Cyfwelwyr Ifanc
Cyfwelwyr Ifanc yn cefnogi cyfweliadau am y Cyfarwyddwr Addysg i Gyngor Caerdydd
Bu 4 o’n cyfwelwyr ifanc arweiniol yn cefnogi’r gyfarwyddiaeth addysg yn ddiweddar wrth iddynt eistedd ar eu panel cyfweliadau rhithwir eu hunain yn rhan o’r broses recriwtio aml-lefel ar gyfer Cyfarwyddwr newydd Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Caerdydd. Gwahoddwyd 5 ymgeisydd i gyfweliad ac ar ôl llawer o drafod, yr ymgeisydd a ddewiswyd oedd Melanie Godfrey. Croesawn Melanie i’r cyngor a dymunwn rwydd hynt iddi wrth iddi olynu Nick Batchelar sydd yn ein gadael.
Mae’r rôl yn cynnwys bod yn gyfrifol am arwain y Gyfarwyddiaeth Addysg gyfan yng Nghyngor Caerdydd ac mae’n cwmpasu Ysgolion, Dysgu Gydol Oes, Gwasanaethau Ieuenctid, Derbyn i Ysgolion, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Threfniadaeth a Chynllunio Ysgolion, y mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy’n buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd i ddatblygu ysgolion yn rhan ohono.
Mae Nick Batchelar wedi bod yn gyfaill pwysig i CIC a’u gwaith a hoffem ddiolch iddo am yr holl waith y mae wedi’i wneud i alluogi pobl ifanc ledled y ddinas i gael mynediad at eu hawliau a’u defnyddio. Dymunwn y gorau iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol.