with the Healthy Schools Team
Welsh Government have provided funding to Welsh local authorities to provide access to free period products in schools. Cardiff Council have decided to ensure that these products are environmentally friendly including ‘plastic-free’ disposable products and a range of reusable products.
Following the tendering process that looked at which company/companies would be best suited to providing these period products, the period dignity project has moved into the next stage of development; educational resources!
The Healthy Schools team (with members from Cardiff Youth Council) are looking to create a video, a campaign or some other form of resource to teach young people about the sustainable sanitary products that will soon be available in their schools.
Many discussions have taken place, including those around;
- The types of products that will be available
- What do young people need / want to know?
- What educational materials already exist? – are they suitable?
- What other ways of education would be useful?
- Points for consideration:
- Sensitivity towards young people who are genderfluid / transgender
- Consideration for those with learning difficulties
- Inclusive of those with physical difficulties
- Education for all young people, not just those that have periods
This group are utilising Microsoft Teams meetings for planning and communicating.
One of the members of the group described it as “a very impressive project as it place a girl’s needs at school at the forefront of everything they do” another said that they are “proud to be a part of such a huge change in attitude and inspirational group”.
“The kind of beauty I want most is the hard-to-get kind that comes from within – strength, courage, dignity” – Ruby Dee

Project Urddas Mislif
gyda’r Tîm Ysgolion Iach
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i awdurdodau lleol Cymru i ddarparu mynediad at ddeunyddiau mislif am ddim mewn ysgolion. Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu sicrhau bod y deunyddiau hyn yn ecogyfeillgar gan gynnwys cynnyrch ‘di-blastig’ tafladwy ac amrywiaeth o ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio.
Yn dilyn y broses dendro oedd yn ystyried pa gwmni/cwmnïau fyddai fwyaf addas i ddarparu’r deunyddiau mislif hyn, mae project Urddas Mislif wedi symud i’r cam datblygu nesaf, sef adnoddau addysgol!
Mae’r tîm Ysgolion Iach (gydag aelodau o Gyngor Ieuenctid Caerdydd) yn awyddus i greu fideo, ymgyrch neu adnodd o fath arall i addysgu pobl ifanc am y deunyddiau mislif cynaliadwy fydd ar gael cyn bo hir yn eu hysgolion.
Mae llawer o drafodaethau wedi’u cynnal, gan gynnwys;
- Y mathau o ddeunyddiau fydd ar gael
- Beth mae pobl ifanc angen / eisiau ei wybod?
- Pa ddeunyddiau addysgol sy’n bodoli eisoes? – ydyn nhw’n addas?
- Pa fathau eraill o addysg fyddai’n ddefnyddiol?
- Pwyntiau i’w hystyried:
- Sensitifrwydd tuag at bobl ifanc rhyweddhylifol / trawsryweddol
- Ystyriaeth i’r rhai ag anawsterau dysgu
- Cynnwys y rhai ag anawsterau corfforol
- Addysg ar gyfer pob person ifanc, nid dim ond y rhai sy’n cael y mislif
Mae’r grŵp hwn yn defnyddio cyfarfodydd Microsoft Teams i gynllunio a chyfathrebu.
Dywedodd un o aelodau’r grŵp ei fod yn “broject trawiadol iawn gan ei fod yn rhoi lle blaenllaw i anghenion merched yn yr ysgol ym mhopeth maen nhw’n ei wneud.” Dywedodd un arall eu bod yn “falch o fod yn rhan o newid mor enfawr mewn agwedd ac o fod yn rhan o grŵp mor ysbrydoledig”.
“Y math o harddwch a ddymunaf fwyaf yw’r math hwnnw sy’n anodd ei gael ac sy’n dod o’r tu mewn – cryfder, dewrder, urddas” – Ruby Dee