Staff updates

AIT welcomes new staff

AIT have gone through some staff changes since the Covid-19 pandemic with the iSay Youth Support Worker post, a new full time MindHub Youth Support Worker and a change in staff for the Youth Work Co-ordinator (Families First) role.

iSay Worker

Chloe Burrage, who was originally a member of CYC and then became an apprentice within the team, went through our first on-line application and interview process and was successful in becoming our new youth support worker (part-time). Chloe has also been successful in gaining a place on the Youth and Community Work degree course at Cardiff Metropolitan University which she starts in September. Chloe has become an vital part of the team and continues to grow in her knowledge and experience. Chloe will be developing and delivering the iSay programme to schools and youth organisations.

MindHub Worker

Jamie Scriven has joined the team as the new MindHub worker. Jamie has previously worked for Merthyr Youth Service supporting the Merthyr Tydfil Borough Wide Youth Forum (MTBWYF) and was the Participation and Health and Safety Officer at Youth Cymru. Jamie will be developing and supporting the MindHub website as well supporting the youth services wellbeing plan.

Youth Work Co-ordinator

Cian Owen joins us from Newport Council where he worked at Ysgol Gyfun Gwent Is Coed where he had a wide variety of responsibilities working with at-risk students and those who are finding school or home life difficult. Cian was also a youth officer at Urdd Gobaith Cymru where he worked closely with Newport Youth Service to help deliver the Inspire to Achieve Project. Cian will be developing and delivering the Families First led Young Programme, which includes Young Commissioners, Young Interviewers and Young Inspectors.

AIT would like to welcome Chloe, Jamie (right) and Cian (left) to the team and their new roles and we look forward to exciting times ahead.

Diweddariadau staff

TCA yn croesawu staff newydd

Mae’r TCA wedi mynd drwy rai newidiadau o ran staff ers pandemig Covid-19 gyda’r swydd Gweithiwr Cymorth Ieuenctid iSay, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Hyb Meddwl llawn amser newydd a newid o ran aelod staff gyda’r swydd Cydlynydd Gwaith Ieuenctid (Teuluoedd yn Gyntaf).

Gweithiwr iSay

Aeth Chloe Burrage, a oedd yn wreiddiol yn aelod o CIC ac a ddaeth wedyn yn brentis o fewn y tîm, drwy ein proses ymgeisio a chyfweld ar-lein gyntaf a llwyddodd i ddod yn weithiwr cymorth ieuenctid newydd (rhan-amser). Mae Chloe hefyd wedi llwyddo i ennill lle ar y cwrs gradd Gweithiwr Ieuenctid ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a bydd hi’n dechrau’r cwrs ym mis Medi. Mae Chloe wedi dod yn rhan hanfodol o’r tîm ac mae’n parhau i ddatblygu o ran ei gwybodaeth a’i phrofiad. Bydd Chloe yn datblygu ac yn cyflwyno’r rhaglen iSay i ysgolion a sefydliadau ieuenctid.

Gweithiwr Hyb Meddwl

Mae Jamie Scriven wedi ymuno â’r tîm fel y gweithiwr Hyb Meddwl newydd. Mae Jamie wedi gweithio i Wasanaeth Ieuenctid Merthyr o’r blaen yn cefnogi Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Merthyr Tudful (FfIBMT) ac wedi bod yn Swyddog Cyfranogiad ac Iechyd a Diogelwch yn Youth Cymru. Bydd Jamie yn datblygu ac yn cefnogi gwefan Hyb Meddwl yn ogystal â chefnogi cynllun lles y gwasanaethau ieuenctid.

Cydlynydd Gwaith Ieuenctid

Mae Cian Owen yn ymuno â ni o Gyngor Casnewydd lle’r oedd yn gweithio yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed gydag amrywiaeth eang o gyfrifoldebau gan weithio gyda myfyrwyr mewn perygl a’r rhai oedd yn cael trafferthion gyda bywyd ysgol neu gartref. Roedd Cian hefyd yn swyddog ieuenctid yn Urdd Gobaith Cymru lle’r oedd yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd i helpu i gyflawni’r Project Ysbrydoli i Gyflawni. Bydd Cian yn datblygu ac yn cyflwyno’r Rhaglen Ieuenctid dan arweiniad Teuluoedd yn Gyntaf, sy’n cynnwys Comisiynwyr Ifanc, Cyfwelwyr Ifanc ac Arolygwyr Ifanc.

Hoffai’r TCA groesawu Chloe, Jamie (dde) a Cian (chwith) i’r tîm a’u swyddi newydd ac rydym yn edrych ymlaen at gyfnodau cyffrous o’n blaenau.

Leave a Reply