Firstly we would like to thank Thorfinn Moffat who has been the representative on the Education Development Board (EDB) for CYC. Thorfinn recently stood down as he is due to move to New Zealand, he has been a great representative for CYC. In his place Victor Ciunca attended his first meeting on the 24th November 2020.
Victor was able to discuss points around the current exam situation for young people in 2020-21 and how the pandemic has affected this and various other topics surrounding education in Cardiff.
He was able to not only represent young people but give a unique perspective on how current education systems accessibility is for young people who may not have English as their first language.
We are very proud of both Thorfinn and Victor in their work with the EDB and will continue to ensure young people are heard and their voices represented in this crucial time in education.

Bwrdd Datblygu Addysg
Yn gyntaf, hoffem ddiolch i Thorfinn Moffat sydd wedi bod yn gynrychiolydd ar y Bwrdd Datblygu Addysg (BDA) ar gyfer CIC. Gadawodd Thorfinn ei rôl yn ddiweddar gan ei fod yn bwriadu symud i Seland Newydd. Mae wedi bod yn gynrychiolydd gwych i Gyngor Ieuenctid Caerdydd. Yn ei le, daeth Victor Ciunca i’w gyfarfod cyntaf ar 24 Tachwedd 2020.
Bu modd i Victor drafod pwyntiau ynglŷn â’r sefyllfa bresennol o ran arholiadau i bobl ifanc yn 2020-21 a sut mae’r pandemig wedi effeithio ar hyn ac amrywiol bynciau eraill sy’n ymwneud ag addysg yng Nghaerdydd. Yn ogystal â chynrychioli pobl ifanc, roedd yn gallu rhoi safbwynt unigryw ar hygyrchedd presennol systemau addysg ar gyfer pobl ifanc nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Rydym yn falch iawn o Thorfinn a Victor yn eu gwaith gyda’r BDA a byddwn yn parhau i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed a bod eu lleisiau’n cael eu cynrychioli yn y cyfnod hollbwysig hwn ym myd addysg.