School Governors Board and Interviewing Sally Holland

One of CYC’s most vocal members has been doing some incredible work recently we would like to share with you. As part of Universal Children’s Day Victor Ciunca interviewed the Children’s Commissioner for Wales Sally Holland around various issues surrounding the Coronavirus pandemic and its effect on children and young people’s education.

Having interviewed the Children’s Commissioner on various issues Victor then took a presentation and recording of his interview to the Cardiff Governors Association Annual Training Conference. Victor presented ideas to the group around the new curriculum, the need for focus on improving young people’s critical and logical thinking in everyday life to build on resilience and independence in young people.

He also spoke about blended learning, the positives and negatives and young people’s wellbeing and how their school life and education affects this. Victor put forward a critical review of current school curriculums and how they don’t prepare young people for real working life where collaboration and researching together are at the heart of the working world. He left the Governors with a strong message. That we want “Education for young people, made by young people, for a bright future”.

To finish the Governors joined together to watch the interview of Victor and Sally Holland and commended him for his work and professionalism. Victor has been a great ambassador to CYC and we look forward to him continuing his work with the School governors Board.

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol a Chyfweld â Sally Holland

Mae un o aelodau mwyaf llafar Cyngor Ieuenctid Caerdydd wedi bod yn gwneud gwaith anhygoel yn ddiweddar yr hoffem ei rannu â chi. Fel rhan o Ddiwrnod Plant y Byd, cyfwelodd Victor Ciunca â Chomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, i drafod materion amrywiol sy’n ymwneud â phandemig y coronafeirws a’i effaith ar addysg plant a phobl ifanc.

Ar ôl cyfweld â’r Comisiynydd Plant am wahanol faterion, aeth Victor wedyn â chyflwyniad a recordiad o’i gyfweliad i Gynhadledd Hyfforddiant Blynyddol Cymdeithas Llywodraethwyr Caerdydd. Cyflwynodd Victor syniadau i’r grŵp ynglŷn â’r cwricwlwm newydd a’r angen i ganolbwyntio ar wella meddwl beirniadol a rhesymegol pobl ifanc mewn bywyd pob dydd er mwyn datblygu gwydnwch ac annibyniaeth ymhlith pobl ifanc.

Siaradodd hefyd am ddysgu cyfunol, yr elfennau cadarnhaol a negyddol a lles pobl ifanc, a sut mae eu bywyd ysgol a’u haddysg yn effeithio ar hyn. Rhoddodd Victor adolygiad beirniadol o gwricwla presennol ysgolion a dweud nad ydynt yn paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd gwaith go iawn lle mae cydweithredu ac ymchwilio ar y cyd wrth wraidd y byd gwaith. Gadawodd neges gref i’r Llywodraethwyr: Ein bod ni eisiau “Addysg i bobl ifanc, gan bobl ifanc, ar gyfer dyfodol disglair”.

I orffen, ymunodd y Llywodraethwyr â’i gilydd i wylio cyfweliad Victor a Sally Holland ac fe’i canmolwyd am ei waith a’i broffesiynoldeb. Mae Victor wedi bod yn gennad gwych i Gyngor Ieuenctid Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen ato’n parhau â’i waith gyda’r Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol.

Leave a Reply