What is Scrutiny?
“Scrutiny ensures a greater number of Councillors are involved in influencing council policy and service improvements, and provide checks and balances on the decisions taken by the Cabinet.” (Cardiff Council Website 2019)
“Each Scrutiny Committee contains nine Councillors, drawn from political parties within the council membership to mirror the council’s overall political composition. The Children and Young People Scrutiny Committee also includes two co-opted parent governors and two co-opted representatives of the Church in Wales and Roman Catholic Dioceses.” (Cardiff Council Website 2019).
Since September 2018 a young person’s representative, from Cardiff Youth Council (CYC), has been allowed to sit on the Children & Young People’s Scrutiny Committee and in December of 2019 the Economy & Culture Scrutiny Committee has welcomed another member of CYC, Naz Ismail, to join them.
What does Naz think?
Naz has said, “I’m Naz Ismail and I have recently had the privilege to sit on the Economy and Culture Scrutiny Committee as a CYC Youth Representative”.
“The meetings take place on a monthly basis in County Hall, where the committee consists of a mixture of local Councillors around Cardiff”.
“Scrutiny is basically inviting people who work in the directorate part of culture and economy within Cardiff and asking these people to deliver short presentations about their work surrounding anything culture and economy related and we as a committee scrutinize their work”.
“As a youth rep, I aim to scrutinize them through a youth perspective ensuring that anything brought up regarding culture and economy has children’s rights included and that the rights and presence of children and young people are incorporated and embedded”.
“I look forward to the rest of my time as a committee member to see what else it has in store!”.
Look out for future updates.
Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant
Beth yw Craffu?
“Mae craffu yn sicrhau bod mwy o Gynghorwyr ynghlwm wrth y broses o lunio polisïau’r Cyngor a gwelliannau i wasanaethau, ac mae’n gwirio a chydbwyso’r penderfyniadau a wneir gan y Cabinet.” (Gwefan Cyngor Caerdydd 2019)
“Mae pob Pwyllgor Craffu’n cynnwys naw o gynghorwyr o bleidiau gwleidyddol yng ngweinyddiaeth y Cyngor er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol cyffredinol y Cyngor. Mae’r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc hefyd yn cynnwys dau o rieni-lywodraethwyr cyfetholedig a dau o gynrychiolwyr cyfetholedig o’r esgobaethau Eglwys yng Nghymru a Chatholig.” (Gwefan Cyngor Caerdydd 2019)
Ers Medi 2018, mae cynrychiolydd sy’n berson ifanc, o Gyngor Ieuenctid Caerdydd (CIC) wedi cael eistedd ar y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ac ym mis Rhagfyr 2019, mae Pwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant wedi croesawu aelod arall o CIC, Naz Ismail, i ymuno â nhw.
Beth ydy Naz yn meddwl?
Meddai Naz, “Naz Ismail ydw i a dwi wedi cael y fraint o fod yn rhan o Bwyllgor Craffu’r Economi a Diwylliant fel Cynrychiolydd Ieuenctid CIC”.
“Cynhelir y cyfarfodydd yn fisol yn Neuadd y Sir, lle mae’r pwyllgor yn cynnwys cymysgedd o Gynghorwyr lleol ledled Caerdydd.”
“Yn y bôn, mae craffu’n golygu gweithio yn y gyfarwyddiaeth diwylliant ac economi yng Nghaerdydd, a gofyn i’r bobl gynnal cyflwyniadau byr ynghylch eu gwaith am unrhyw beth yn ymwneud â diwylliant a’r economi ac rydyn ni fel pwyllgor yn craffu eu gwaith”.
“Fel cynrychiolydd ieuenctid, fy mwriad yw craffu nhw o bersbectif ieuenctid sy’n golygu bod hawliau plant yn rhan o unrhyw beth yn ymwneud â diwylliant a’r economi, a bod hawliau a phresenoldeb plant a phobl ifanc wedi’u hymgorffori.”
“Edrychaf ymlaen at weddill fy amser fel aelod pwyllgor i weld beth sydd ar y gweill!”
Cadwch lygad am ddiweddariadau eraill yn y dyfodol.