Cwricwlwm Am Fywyd

Helo pawb,

Llynedd, un o’r blaenoriaethau wnaeth ymddangos ar bleidlais “Make Your Mark” ac agenda CIC oedd “Cwriculum Am Fywyd”- olyga hyn bod nifer fawr o bobl ifanc ar draws y wlad yn teimlo nad yw’r addysg mae nhw’n derbyn yn yr ysgol yn addas i’w paratoi am yr anhawsterau bydden nhw’n cwrdd yn y “byd go iawn” ar ol gadael. Nid yn unig hwn- dydy’r cwricwlwm ddim yn cynnig y gwybodaeth a sgiliau sydd angen arnom i fyw bywydau hapus, iach nawr; mae’r pwyslais ar raddau ac arholiadau yn ologu bod pobl ifanc yn ffeindio hi yn gynyddol amhosib i ymdopi a’r straen.

Penderfynnom cynnal arolwg i ddarganfod beth oedd barn pobl ifanc am y gwersi ABCH derbynnon nhw, pa cynnwys mae nhw’n credu sydd ar goll, a pa gwelliannau hoffen nhw gweld.

Bu ymddangos canlyniadau… diddorol. Ar draws Caerdydd, wnaeth disgyblion o bob ysgol cymryd rhan, a’r peth mwyaf nodweddiadol oedd yr anghysondebau dengys yn y canlyniadau. Does dim gwir strwythr, neu cwricwlwm ar gyfer ABCH, gan olygu bod gwahaniaethau mawr mewn answadd y dysgu bu rhai yn derbyn- felly, er dywed rhai eu bod nhw’n hapus a’u gwersi, wnaeth hyn annog gwestiwn, yn enwedig pan nad oedd dros hanner yn argyhoeddiedig… a oes blant sydd yn hapus cael gwers rhydd sydd ddim yn gwneud gwahaniaeth, i wneud dim byd ynddo? Beth bynnag yw’r rhesymau, yn unfrydol gelwir pobl ifanc am wersi ar sawl pwnc sydd ar goll, yn amrywio o bynciau pwysig fel dynoliaeth, cymorth cyntaf ac ymwybyddiaeth iechyd meddylion, gwersi wedi’u cyflwyno gan arbenigwyr cymwysiedig.

Troesom y ganlyniadau pwysicaf mewn i inffograffeg (ydy,  mae’n gair), ac mae’n bosib ei weld yma; Infographic_v2 (4)

Beth mae’r canlyniadau yma yn eu olygu? Ydych chi’n cytuno? Gadewch i ni wybod yn y sylwadau, neu ar Twitter, neu Facebook!

Diolch i bawb daeth i’r gyfarfod ym Medi, rhydym yn edrych ymlaen at weld chi eto yn hwyrach yn y mis!

first meeting

Maegan a CIC 🙂

Leave a Reply